google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Starmer yn ymweld ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch etholiadol

Roedd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething hefyd yn bresennol yn y digwyddiad fore Mercher.

Dywedodd Mr Gething fod y ddau wedi siarad am Tata Steel ychydig ddyddiau yn ôl.

Nododd Syr Keir fod hyn yn enghraifft o’r “budd dwbl” y gallai llywodraeth Lafur ar draws y DU ei roi i Gymru.

“Ein gweithred gyntaf oedd cysylltu â’n gilydd o fewn munudau, i siarad un-i-un, ac yna i drefnu cyfarfod i benderfynu sut y gallwn ddatrys y mater a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud i arbed swyddi, ac i arbed y diwydiant dur yma yng Nghymru,” meddai.

Ailadroddodd Syr Keir ei neges trwy gydol yr ymgyrch etholiadol.

“Rydym bellach wedi cael 14 mlynedd o anhrefn, o raniad a methiant,” meddai.

“Y dewis yfory yw dod â hynny i ben, troi’r dudalen a dechrau ailadeiladu gyda Llafur.”

Mae Plaid Cymru yn gobeithio gwneud yn dda ar draws gorllewin Cymru a dywedodd Liz Saville Roberts o’r blaid fod Llafur “yn poeni am Blaid Cymru”.




Source link

Advertisements
Views: 2

See also  Hot weather means overnight work

Check Also

Thieves steal car with £4,000 of vital equipment for girl, 4, with rare disorder

Catrin Jones says the theft means travelling to medical appointments with her daughter is difficult. …

Gwleidydda: Yr wythnos olaf cyn yr etholiad

Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd gwyliwch rifyn arbennig o bodlediad Gwleidydda gyda Vaughan …

Car, sy’n cynnwys offer gwerth £4,000 ar gyfer plentyn anabl, wedi’i ddwyn

Mae mam i blentyn pedair oed sydd ag anabledd difrifol yn dweud ei bod wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.