google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Car, sy’n cynnwys offer gwerth £4,000 ar gyfer plentyn anabl, wedi’i ddwyn

Advertisements

Mae mam i blentyn pedair oed sydd ag anabledd difrifol yn dweud ei bod wedi cael sioc ar ôl i’w char gael ei ddwyn – roedd yn cynnwys offer a chyflenwadau meddygol gwerth hyd at £4,000.

Wrth gasglu meddyginiaeth ei merch, Eva Rae o’r fferyllfa leol ddydd Llun gadawodd Cartin Jones, sy’n 25 oed ac o ardal Gorseinon yn Abertawe, ei char mewn maes parcio.

Mae Eva’n byw gyda Metachromatic leukodystrophy (MLD), clefyd genetigol prin sy’n effeithio ar fater gwyn yn yr ymennydd.

Roedd y car – Volkswagen Taigo – yn cynnwys sedd car arbenigol Eva sydd werth £3,000.

Roedd angen i Eva deithio i Gaerdydd yn hwyrach y noson honno i aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru ond heb y car arbenigol bu’n rhaid iddi orwedd ar sedd gefn car arferol gyda Catrin, ei mam, yn ei chofleidio.

“Doedd e ddim yn saff iawn a dylen ni ddim fod wedi gwneud hynny ond pe bawn ni ‘di colli’r apwyntiad byddai rhaid i ni aros tair blynedd arall,” meddai Catrin.


BBC News

Views: 1

See also  Tredegar couple take on TV's Gladiators together

Check Also

Miriam Margolyes says being born Jewish has affected her whole life

“My friends and my relatives in Golders Green and Dollis Hill and Radlett and St …

Zain Ul Hassan: All-rounder extends Glamorgan stay

Glamorgan all-rounder Zain Ul Hassan has signed a contract extension at the club until the …

London driver jailed after Cwmbran getaway attempt while handcuffed

Body cam footage has captured a man attempting to drive away from police officers while …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.