google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Staff cynorthwyol ysgol yn gwneud mwy am dâl ‘ofnadwy’, medd undeb

Advertisements

Mewn rhai achosion mae disgwyl i staff cynorthwyol wneud tasgau meddygol sydd y tu hwnt i’w cyfrifoldebau a hyfforddiant, meddai Rosie Lewis, pennaeth ysgolion Unsain.

“Yn aml, mae disgwyl i’n haelodau ymgymryd â rolau sy’n cynnwys rhoi meddyginiaeth ac, yn fwy pryderus, ymyriadau personol fel gosod cathetrau,” meddai.

“Dyma staff sy’n gweithio oriau hir, yn aml yn helpu allan, yn mynd ar gyrsiau preswyl.

“Amser Nadolig… yn helpu gyda’r dramâu ysgol, paratoi gwisgoedd – hyn i gyd ar ben eu tasgau dyddiol a dydyn nhw ddim yn cael unrhyw dâl ychwanegol am hynny.”

Er gwaethaf y rhwystredigaeth am dâl ac amodau mae Angharad Evans yn dweud bod y staff “yn dwlu ar y Nadolig – ma’r plant yn hapus yn dod mewn sy’n ‘neud ni’n hapus wedyn”.

“Mae fe’n ysgol hyfryd i weithio yn – ma’r plant yn biwtiffwl – ni’n dwlu gweithio ‘dan nhw, a ‘na’r rheswm pam ni’n dod mewn bob dydd.”

Ond meddai: “Ma lot mwy o gyfrifoldebau ‘dan ni a dyw’r pae jyst ddim yn adlewyrchu beth y’n ni’n neud fel cynorthwywyr yn yr ysgol.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod “staff cymorth yn rhan allweddol a gwerthfawr o’n gweithlu addysg ac rydym am sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maent yn eu haeddu”.

Dywedodd llefarydd bod yna gynllun i sefydlu corff negodi i staff cymorth ysgolion.

“Mae cynorthwywyr addysgu yn cefnogi rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus ac, yn unol â’n hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, maent yn haeddu cael eu cydnabod, eu talu a’u trin yn deg am y gwaith gwych y maent yn ei wneud.”


BBC News

Views: 0

See also  Drug driver who killed mother-of-four jailed

Check Also

Ethan Galbraith: Swansea City midfielder poised to join Stoke City for eight-figure fee

Ethan Galbraith is poised to leave Swansea City for Stoke City after the Welsh club …

Cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio dyn arall yn Y Trallwng

Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall ym Mhowys dros …

Actor gyda ADHD yn uniaethu â’i chymeriad yn nrama Death Valley

Wrth sôn am ei gwaith fel actor, mae hi’n sylwi ar yr un math o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Used to monitor number of google analytics server requests. Mitsubishi 4g63 ralliart evo engine speedstar models. electric scooter reviews.