google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sioned Wiliam: ‘Y 60au yn cynnig pennod newydd cyffrous’

Advertisements

Gyda’r gyfres newydd Riot Women ar BBC 1 yn adlewyrchu bywydau menywod sy’n mynd drwy’r menopos mae Sioned yn sôn am y gwahaniaeth rhwng y cyfnod hynny a’r hyn sy’n dod wedyn: “Mae hwnna i gyd [y menopos] drosodd. Mae lot yn well mewn lot o ffyrdd – ti’n teimlo’n well.

“Mae lot o fenywod yn eu 60au wedi ymddeol ond ddim ishe rhoi’r gorau i bethau felly maen nhw’n gwirfoddoli a’n edrych ar ôl wyrion. Ac weithiau mae dal gyda nhw rhieni hefyd.

“Mae’n gyfnod pan ‘sdim gymaint o ots gyda chi am sut chi’n edrych. Chi’n gallu mwynhau eich hunan. Chi’n teimlo llawer mwy hyderus i fod yn chi eich hunain.

“Mae lot o fanteision iddo fe. Chi ddim mor ymwybodol falle a chi â mwy o awch i fwynhau pethau hefyd. Chi ddim yn poeni gymaint am beth mae pobl yn meddwl amdano chi.”

Ac mae hi’n falch i weld menywod hŷn yn cael llais ar y sgrin: “Mae’n bwysig – mae Sally Wainwright [sy’ wedi creu Riot Women] yn awdur toreithiog a gwych ac mae’r cast yn arbennig.

“Maen nhw’n fenywod sy’ mor brofiadol a dwi’n meddwl mae’r syniad yma eto o fwynhau bywyd a dechrau penodau newydd. Maen nhw wedi dod i groesffordd ac yn chwilio am bennod newydd. Hwnna yw’r brif neges – bod modd cael pennod newydd.

“Yn Riot Women mae siwrne y menywod yna yn wahanol i gyd ond maen nhw’n haeddu dechrau pennod newydd gyfoethog.”

Mae’r nofel 60 Rhywbeth yn un doniol ond yn ymdrin â phynciau dwys mewn ffordd ysgafn yn ôl Sioned: “Ni’n sôn am gymeriadau sy’n ddigon ffodus i beidio bod yn sâl. Maen nhw’n ffodus does dim problemau economaidd gyda nhw.

“Mae un yn gorfod symud tŷ ar ôl ysgariad ond dydyn ni ddim yn sôn am bobl sy’n gorfod wynebu pethau enbyd fan hyn. Mae’n lyfr ysgafn ond dwi’n trio archwilio rhai themâu mwy dwys.

“Mae rhai pobl yn ffodus gyda’r menopos hefyd. Lwc yw e i gyd – mae bwyta yn gymedrol a neud lot o ymarfer corff yn syniad da ond lwc yw lot ohono fe.”


BBC News

See also  '2025 yn flwyddyn heriol arall i Heddlu'r De' - Prif Gwnstabl

Check Also

Drivers hurl urine bottles at Menai Suspension Bridge workers

“We have seen a few water bottles thrown, even one with urine,” he said. “When …

Carcharu twyllwyr a honnodd ei fod yn gyn-filwr, yn filiwnydd a chlaf chanser

Perswadiodd Joseph Gibson, 35 oed o Ruthun, bedwar o bobl i roi degau ar filoedd …

Ryan Barnett: MK Dons sign midfielder on loan from Wrexham

MK Dons have signed midfielder Ryan Barnett on a season-long loan deal from Wrexham. Barnett, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime