google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘2025 yn flwyddyn heriol arall i Heddlu’r De’ – Prif Gwnstabl

Yn yr wythnosau nesaf, mae disgwyl i Lywodraeth y DU amlinellu cynlluniau i ad-drefnu heddluoedd Cymru a Lloegr a thorri nifer y lluoedd yn sylweddol.

Mewn cynhadledd ym mis Tachwedd, fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, bod y drefn bresennol yn “afresymol”.

“Dwi’n gw’bod bod disgwyl papur gwyn yn y flwyddyn newydd a gawn ni weld be’ fydd yn hwnnw,” meddai Mr Vaughan.

Mewn ymateb i gwestiwn ai fo fydd prif gwnstabl olaf Heddlu De Cymru a phrif gwnstabl heddlu newydd ar gyfer Cymru gyfan, atebodd:

“Job fi ar y funud yw sicrhau bod ni’n darparu gwasanaeth da a dim mwy na hynny

“Wrth gwrs bo fi yn ca’l sgyrsiau i gynghori’r rheina sydd yn datblygu polisïau newydd ond gawn ni weld be ddoith o’r papur gwyn yn y flwyddyn newydd.

“O ddydd i ddydd, be’ ma’ pobol isio ydi ateb galwad ffôn neu i ni droi fyny pan ma’ nhw angen help ar frys… ‘di hwnna ddim yn newid a neith o byth.”


BBC News

Advertisements

See also  Cyngor Llyfrau Cymru i 'gefnogi llai o lyfrau Cymraeg'

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime