Un o gydweithwyr Siôn, sef Siân Thomas, oedd yn gyfrifol am gysylltu ac am fagu perthynas ar-lein gyda rhai o’r dynion oedd yn chwilio am denantiaid i dalu am rhent drwy rhyw. Bu’n anfon negeseuon am fisoedd at rai o’r dynion yma gan esgus ei bod hi’n chwilio am le i fyw.
Meddai Siôn: “Mae edmygedd mawr gyda fi i Siân. Ti’n mynd a stori fel hon gartre ‘da ti, ti wastad yn meddwl amdani.
“Ar ôl i’r rhaglen gael ei darlledu o’n ni’n cael ceisiadau gan gwmnïau teledu mewn gwledydd fel Yr Almaen a China am gopi o’r rhaglen – oedd y stori wedi cyrraedd y gwledydd eraill ‘ma.”
Y cam nesaf oedd i Siân gyfarfod â’r dynion gyda gweddill y tîm yn agos ac yn ffilmio cyn i Siôn gamu mewn i gyfweld y dynion.
Meddai: “Fel gyda bob tro ti’n neud rhyw fath o doorstep mae ‘na wastad risg bod rhywun yn troi’n dreisgar.
“O’n i bendant yn nerfus ond dwi’n cofio yr adrenaline a bod yn ymwybodol bod job o waith gyda fi i wneud.
“Mae’n rhaid i ti gael e’n iawn y tro cynta’. ‘Nath e gymryd lot o gydweithio gyda Siân a’r cynhyrchydd. Oedden ni’n recordio pethau ar ddyfeisiau fel allweddi car felly oedd lot o gyfathrebu o fewn y tîm.
“Mae lot o risg ond ti’n neud e’n iawn o ran dala rhywun mas yn neud rhywbeth ddylen nhw ddim wedi bod yn neud.”
Yn ôl Siôn roedd hi’n amlwg fod y ddau ddyn yn teimlo cywilydd i gael eu dal ar gamera yn ceisio trefnu lle i fyw am ryw: “Pan ‘nes i gyflwyno fy hun a dechrau cwestiynu y dyn cynta’ dwi’n cofio gweld ei wyneb e a gweld yr ofn a’r cywilydd ‘ma yn golchi dros ei wyneb e.
“‘Nath y ddau ddyn rhedeg bant unwaith i fi daflu cwestiynau at nhw. Oedden nhw’n gwybod bod nhw wedi neud rhywbeth dylen nhw ddim wedi neud.”
Mae’r stori hefyd yn bwysig i Siôn am fod e’n adlewyrchu Cymru gyfoes: “Mae ishe dangos i bobl yng Nghymru a rhoi siglad iddi nhw fod pethau fel hyn yn digwydd. Mae ishe rhyw fath o reality check.
“Dyna yw’n gwaith ni fel newyddiadurwyr yw datgelu pethau sy’ ddim o reidrwydd yn hysbys i bob un.”
Gallwch glywed mwy am y gyfrol newydd Fy Stori Fawr Arall yn Iard y Brenin, Pontcanna ar nos Iau Medi 25.
BBC News