google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Sioc’ busnesau am fygythiad i Swyddfa’r Post Caernarfon

Dywedodd Jennifer Hanlon, sy’n rhedeg siop Lottie & Wren, y byddai cau Swyddfa’r Post yn “hynod o drist” a’n “golled arall i Gaernarfon” wedi i nifer o fanciau gau yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae gen i wefan i’r siop a dwi’n defnyddio’r Swyddfa Bost bob dydd,” meddai.

“Mae’r banc o’n i’n bancio efo ‘di cau a dwi’n defnyddio’r Swyddfa Bost i ‘neud hynna rŵan felly fydda i wedi colli dau wasanaeth os mae’n cau.

“Mae’r bobl sy’n gweithio yna yn bobl sy’n siopa efo fi ac yn y dre, so mae’n gweithio’r ddwy ffordd.

“Mae cymaint o bobl sydd angen y gwasanaeth, pobl hŷn yn enwedig.

“Mae’n rhan fawr o’r gymuned a ‘di o ddim yn gyfleus i bawb ‘neud popeth ar-lein, a dydi pobl ddim eisiau ‘neud popeth ar-lein.

“Mae o am gael effaith fawr os mae’n cau. Hyd yn oed hefo ymwelwyr – pob haf fydda i’n cael rhywun yn dod i mewn yn chwilio am y Swyddfa Bost.

“Mae pethau fel hyn bob tro yn cael knock-on effect.”


Source link

Advertisements

See also  Cardiff rugby takeover collapses and puffin numbers at record number

Check Also

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Lauren Evans o Hendy i’w hanrhydeddu yn BAFTA Cymru

Bu bron i gyfarwyddwr castio o Hendy, sir Gâr anfon ei newyddion am anrhydedd gan …

Dod o hyd i luniau o ‘filwyr coll’ o Gymru wedi’u claddu yn yr Iseldiroedd

Dywedodd Jackie Pryce-Elias, 60 oed, o Gaerfyrddin, ei bod wedi ei syfrdanu’n llwyr pan welodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime