google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sêr chwaraeon ac arwyr cymunedol o Gymru i gael eu hanrhydeddu

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies, y cyflwynydd chwaraeon Gabby Logan a Megan Jones, enillodd Gwpan Rygbi’r Byd gyda thîm Lloegr eleni, ymhlith y Cymry i dderbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Jonathan Davies ei fod yn “falch iawn” ar ôl derbyn CBE am ei waith gyda Chanolfan Ganser Felindre, yn ogystal â’i gyfraniad i ddarlledu.

“Mae’n neis i ennill e o ran y gwaith ar y teledu, yn enwedig gan bo’ fi wedi gwneud y ddwy gêm – cynghrair a’r undeb,” meddai.

“Ond be sy’n bwysicach yw’r elusen ganser – a hwnna, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i lot o bobl, a helpu mas Ysbyty Felindre gyda’r gweithwyr a’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud – a sai’n credu bod pobl yn deall ac yn parchu nhw nes bod nhw yn anffodus yn gorfod mynd yno.”

Fe dderbyniodd MBE a’r OBE yn y gorffennol, ac mae bellach yn derbyn anrhydedd uwch y CBE.

Ac yntau’n llywydd Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, mae’n pwysleisio bod yr anrhydedd i bawb sy’n gweithio ar ran yr elusen, gan ddweud ei fod “yn wych i just fod yn part o’ fe”.


BBC News

Advertisements

See also  Murray the Hump: Oedd y gangster Cymreig yn rhan o lofruddiaeth JFK?

Check Also

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Cardiff police chase drug dealer posing as fast food delivery courier

This is the moment a drug dealer tried to evade police on foot while posing …

Sefyllfa tai cymdeithasol Pen Llŷn yn ‘annheg’ ar bobl ifanc lleol

“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn”, meddai’r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime