google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sefydlu grŵp yn y gogledd i leddfu ‘unigrwydd canser’

Roedd teimlo lwmp ar ei bron yn sioc enfawr i Anwen Edwards o Lanfairpwll ym Môn yn Rhagfyr 2021 ond dywed mai’r hyn a roddodd fwyaf o syndod iddi oedd yr unigrwydd wedi i’r driniaeth ddod i ben.

Ddechrau eleni fe sefydlodd hi grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol o’r enw ‘Cymuned Cefnogaeth Canser’ – grŵp sydd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi denu bron i 300 o aelodau.

“Mi ges i ddiagnosis buan ond roedd y cyfan yn andros o sioc,” meddai Anwen wrth siarad â Cymru Fyw.

“Roeddwn i’n 46, yn byw bywyd llawn gyda fy ngŵr a dwy ferch yn ei harddegau – ac i ddweud y gwir yn byw bywyd iach iawn.

“Yn ystod Covid roeddwn i wedi colli lot o bwysau ac yn ffit iawn. Roeddwn i’n rhedeg yn gyson, yn gwneud ymarfer corff ac yn bwyta’n iach – o ran fy ffitrwydd dyna’r mwyaf ffit dwi wedi bod erioed.

“Ond efallai yr hyn a’m tarodd i fwyaf tra’n sâl oedd unigrwydd canser. Ro’dd hi’n gyfnod Covid a ‘nes i’m cyfarfod ffrindiau ac roedd y cyfnod wedi i mi orffen y driniaeth yn waeth.


Source link

Advertisements

See also  Did Welsh Rarebit start out as a joke by the English?

Check Also

Track Cycling World Championships: Emma Finucane will ‘come back fighting’ after narrowly missing gold in Shanghai

Emma Finucane said she will “come back fighting” for gold medals after narrowly missing out …

Aberfan: Atgofion y gweinidog a’r disgybl ysgol fu yno

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd. “Oedd rywbeth …

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime