google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rownd a Rownd ‘wedi buddsoddi £175m yn economi’r gogledd’

Neges debyg sydd gan Ioan Prys sydd â siop gardiau a nwyddau Cymraeg ym Mhorthaethwy.

“Maen nhw’n wych, maen nhw ‘di bod i mewn ac allan o’r siopau ers blynyddoedd,” meddai.

“Nid dim ond yr actorion, mae pobl yn gweld yr actorion yn cerdded o gwmpas, ond mae gennych chi lot o staff sy’n gweithio yno sy’n beth grêt – swyddi da i bobl leol.”

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Môn, mae lleoliad y gyfres yn cyfrannu’n fawr at yr economi leol ac i brysurdeb canol Porthaethwy.

“Does dim dwywaith amdani, â ni ar ochr stryd brysur fan yma ac mae’r lle ar agor i’r cyhoedd,” meddai Robin Wyn Williams.

“Mae pobl yn dod yma i weld y set felly mae’n tynnu pobl i mewn i’r dref, sy’n fendigedig.

“Mae’r caffis, tai bwyta, a’r gwestai yn y dref, maen nhw gyd wedi cael gwerth economaidd allan o fodolaeth ‘Rownd a Rownd’ dros y blynyddoedd.”

Wrth nodi’r garreg filltir, bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yng nghanolfan Pontio nos Sadwrn.


BBC News

Advertisements

See also  Newidiadau i gyrsiau TGAU Cymraeg a Saesneg wedi pryderon athrawon

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime