google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymorth i farw: Ofn bod yn ‘sownd mewn poen’

Advertisements

Ddydd Gwener bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y mesur.

Os nad ydyn nhw’n pleidleisio o’i blaid, bydd y mesur yn methu.

Pan bleidleisiodd ASau ar y mesur ym mis Tachwedd fe bleidleisiodd 330 o blaid a 275 yn erbyn.

O blith y 32 AS o Gymru, pleidleisiodd 23 o blaid a chwech yn erbyn. Fe wnaeth tri beidio pleidleisio.

Ond mae’r AS Llafur dros Fro Morgannwg Kanishka Narayan wedi dweud yn barod y bydd e’n pleidleisio yn erbyn y mesur ddydd Gwener ar ôl pleidleisio o blaid ym mis Tachwedd.

Dywedodd Mr Narayan wrth BBC Cymru ei fod o blaid cymorth i farw “mewn egwyddor” ond nad oedd e’n credu bod y mesur yn ddigon cadarn i ddiogelu pobl fregus.

Yn y cyfamser bydd yr AS Llafur dros Rhondda ac Ogwr Syr Chris Bryant yn cefnogi’r mesur ar ôl ymatal ei bleidlais y tro diwethaf.

“Yn anffodus, mae’r gyfraith bresennol yn methu gormod o bobl sy’n dioddef o salwch terfynol,” meddai.

Mae Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi cefnogi’r ddeddfwriaeth hyd yma a chyn y bleidlais ddydd Gwener dywedodd: “Ni allwn golli’n golwg ar ddioddefaint dim ond oherwydd bod y ddeddfwriaeth yn anodd.”

Fodd bynnag, bydd ei chyd-aelod o’r Blaid, Ann Davies, yn pleidleisio yn erbyn y mesur, gan ddweud nad oedd hi’n “argyhoeddedig bod y ddeddfwriaeth hon yn darparu digon o ddiogelwch i’r rhai mwyaf agored i niwed”.

Dywedodd AS Llafur Sir Fynwy, Catherine Fookes, y byddai’n cefnogi’r cynlluniau ar ôl gweld profiad ei thad gyda salwch a gofal lliniarol.

Cyn bod modd cynnal pleidlais ar y mesur yn ei gyfanrwydd, bydd ASau yn trafod ac yn pleidleisio’n gyntaf ar welliannau sydd wedi eu cyflwyno, gan gynnwys un sy’n ymwneud â phwerau Senedd Cymru.

Yn dilyn newid blaenorol i’r mesur, fel ag y mae ar hyn o bryd, byddai’r Senedd yn gallu penderfynu pryd y byddai’r mesur yn dod i rym yng Nghymru.

Mae Leadbeater yn ceisio gwrthdroi hynny, gan adael y Senedd gyda phwerau dros sut y byddai’r system yn gweithio o fewn i’r gwasanaeth iechyd, ond heb bwerau dros y ddeddf yn ei chyfanrwydd.

Fe bleidleisiodd Aelodau Senedd Cymru yn erbyn yr egwyddor o gymorth i farw ym mis Hydref.

Pe bai’r mesur yn cwblhau ei daith drwy Senedd San Steffan byddai’n rhaid i Senedd Cymru gynnal pleidlais arall ar y mater.


BBC News

Views: 0

See also  Vaughan Gething: Leaked texts sent to Covid-19 inquiry

Check Also

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo. Digwyddodd y …

County Championship: Glamorgan seal innings win over Hampshire

Glamorgan completed a County Championship victory over Hampshire for the first time since 1991, and …

‘Siomedig a dig’ – etholwyr heb bleidleisiau post cyn etholiad

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae eu canfaswyr wedi siarad â nifer o bobl yng …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.