google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

‘Ro’n i eisiau mynd ar fy nhelerau fy hun’ – seren The Traitors

Er ei bod bellach allan o’r gystadleuaeth, dywedodd ei bod yn mwynhau gwylio’r gyfres gyda gweddill y cyhoedd.

“Does gen i ddim syniad pwy sy’n mynd i ennill,” meddai. “Nawr dwi yn yr un cwch â phawb arall.”

Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio gweld “y Celtiaid” yn llwyddo, gan ddweud y byddai’n “hollol hudolus” pe bai’r ‘bradwyr’ o Iwerddon a’r Alban yn mynd yr holl ffordd.

Ychwanegodd, fodd bynnag, ei bod yn credu y gallai Matt, Jack a Faraaz fod ymhlith y rhai fydd yn cyrraedd y diwedd.

Er bod y rhaglen wedi dod â mwy o sylw iddi, dywedodd Fiona fod pobl yng Nghymru’n ymateb mewn ffordd hamddenol iawn.

“Yng Nghymru, mae pobl yn gofyn, ‘ga i selfie?’ ac yna’n symud ymlaen. Dy’ ni ddim y math o genedl sy’n cael ein dylanwadu gan hynny i gyd.

“Mae’n dipyn o hwyl a dwi’n ymddeol ddiwedd y mis yma, felly fe fydd gen i fwy o amser i ‘arogli’r rhosod’.”


BBC News

Advertisements

See also  Clients and staff in dark as law firm shuts doors

Check Also

Lorry driver electrocuted after vehicle hit overhead power line

A driver of a tipper lorry was electrocuted after part of his vehicle hit an …

Beirniadu cynlluniau Bwrdd Iechyd Powys i ad-drefnu ysbytai cymunedol

Mae rhaglen ‘Gwella Gyda’n Gilydd’ y bwrdd iechyd hefyd yn cynnwys cynigion i ad-drefnu gwasanaethau …

Wrexham: Phil Parkinson seeks Middlesbrough response after honest talks

“We’re not where we want to be, we know that, but we’ve got to dig …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime