google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhyfel Wcráin: ‘Gwireddu breuddwyd’ drwy agor busnes yng Nghymru

Advertisements

Doedd gan y teulu ifanc ddim byd pan ddaethon nhw i Gymru, ar ôl gorfod troi cefn ar fusnes adeiladwaith llwyddiannus yn Kyiv.

Syniad Vadym oedd hi i geisio cychwyn busnes newydd. Nid oedd Maryna yn credu y byddai hynny’n bosib, ond roedd ffydd ei gŵr wedi ei pherswadio i ddyfalbarhau.

“Dywedodd fy ngŵr, mae rhaid i ni geisio, mae’n rhaid i ni geisio er lles ein plant.”

Gyda dim ond £40 i brynu peiriant gwneud sudd, fe wnaeth y ddau agor stondin sudd oren yn neuadd y farchnad y Fenni ym mis Ionawr 2023.

Teithiodd y ddau ar hyd Cymru, gan werthu eu cynnyrch yn y Sioe Frenhinol, Gŵyl Y Gelli a Gŵyl Fwyd Y Fenni.

Fe aeth y busnes o nerth i nerth ac ym Mehefin 2024 fe agorwyd siop ar y stryd fawr o’r enw ‘Squeezing’ .

“Mae gennym ni gymaint o ffrindiau yn y Fenni – maen nhw’n ein caru ni ac yn ein cefnogi ni,” ychwanegodd Maryna

“Fe wnaethon nhw gofleidio ni, crio gyda ni, gweddïo gyda ni – rydyn ni’n teimlo bod croeso i ni yma. Byddwn yn ddiolchgar iddyn nhw am byth.”


BBC News

Views: 0

See also  URC: Angus O'Brien signs new two-year Dragons contract

Check Also

Thousands could unknowingly have diabetes as cases rise faster than predicted

Cases of diabetes in Wales are rising, with patients in certain communities disproportionately affected. BBC …

'Dim lle i beilonau' ar gyfer cysylltiadau trydan newydd – gweinidog ynni

Gweinidog ynni Cymru yn mynnu y bydd ei blaid yn cadw at eu hymrwymiad i …

Dame Prue Leith on calling Michelin Guide to ask why she didn't have a star

The ex-Great British Bake Off judge speaks to crowds at Hay Festival about the books …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.