google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybuddion llifogydd yn dal mewn grym yng Nghymru ddydd Mawrth

Advertisements

Mae ffyrdd wedi bod ar gau mewn mannau oherwydd llifogydd, gan gynnwys mewn sawl lle yng Ngwynedd – Lôn Pont Morgan rhwng Pwllheli ac Abersoch, yr A4085 rhwng Pont Aberglaslyn a Llanfrothen a’r un ffordd rhwng Waunfawr a Rhyd Ddu.

Yn Sir Gaerfyrddin mae un ffordd wedi cau, sef Heol yr Orsaf, y ffordd o gylchfan yr A40 i orsaf drenau Llangadog.

Mae nifer o ffyrdd yng Ngwynedd sydd ar agor ond bod angen gofal wrth yrru arnyn nhw, oherwydd llifogydd.

Ymysg y rhain mae’r A497 ym Morfa Nefyn, yr A487 rhwng Penygroes a Groeslon, yr A496 rhwng Ynys a Harlech a’r A4244 rhwng Deiniolen a Rhiwlas.

Fe wnaeth Traffig Cymru alw ar bobl ddydd Llun i wirio’r rhybuddion neu gyfyngiadau ffordd diweddaraf cyn teithio ac i ystyried a oes wir angen gwneud y daith.

Does dim rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd ar hyn o bryd ac mae modd gwirio’r rhybuddion a’r cyngor diweddaraf ar wefan CNC, dolen allanol.


BBC News

Views: 2

See also  40 o sefydliadau celfydyddol i gael cyllid o raglen gwerth £8 miliwn

Check Also

Menai Bridge could close if staff get more abuse, motorists warned

Further abuse towards staff during repairs on a busy bridge could lead to its closure, …

Siwan Davies yn ennill Medal Wyddoniaeth Eisteddfod y Garreg Las

Yn ôl Siwan, mae cael ei hychwanegu at restr enillwyr y Fedal Wyddoniaeth yn “fraint …

The Hundred 2026 results: Ben Duckett leads Trent Rockets to win over Welsh Fire

The Hundred men’s competition, Sophia Gardens Welsh Fire 122-7 (100 balls): Short 36 (26); Santner …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Most viewed apps betjili.