google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd oren am wres eithafol ddechrau’r wythnos i rannau o’r de

Mae rhybudd oren am wres eithafol yn cael ei ragweld i rannau o dde ddwyrain Cymru ddydd Llun a ddydd Mawrth.

Y disgwyl yw y bydd hi’n gynnes iawn yn siroedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Daw’r rhybudd gan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol i rym am 01:00 fore Llun ac mae’n dod i ben am 23:59 ddydd Mawrth.

Mewn rhai rhannau, mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd uchafbwynt o dros 30C, ddydd Mawrth.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gall y gwres effeithio ar bobl a seilwaith a’i bod hi’n bosibl y bydd y tymheredd uchel iawn yn parhau ar draws rhai ardaloedd tan ganol yr wythnos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Rishi Sunak yn ymosod ar record Llafur yng Nghymru

Check Also

Northern Ireland Open: John Higgins and Jack Lisowski knocked out in Belfast

John Higgins and reigning champion Jack Lisowski became the latest big names to fall at …

‘Angen gweithredu, nid siarad’ – cri ffermwr cyn cynhadledd tanau gwair

“O’dd e’n gyfnod anodd iawn i ddiffoddwyr ac i’r gwasanaethau tân,” yn ôl Cerith Griffiths, …

Pobol y Cwm yn ffarwelio ag Anita ar ôl 27 mlynedd

RHYBUDD: Mae’r erthygl hon yn cynnwys spoilers i bennod Hydref 22 o Pobol y Cwm. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime