google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd oren am law trwm yn y de ddydd Sul a bore Llun

Advertisements

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Sul.

Fe fydd rhybudd oren am law trwm mewn grym rhwng 15:00 brynhawn Sul a 06:00 fore Llun.

Mae’r rhybudd oren yn berthnasol i 14 o siroedd yn y de; Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Mynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Dywed y Swyddfa Dywydd bod llifogydd yn debygol mewn mannau ac y gallai’r tywydd garw amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac achosi trafferthion ar y ffyrdd.

Am 11:00 fore Sul roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pedwar rhybudd oren yn y de orllewin – sy’n gofyn i bobl fod yn barod am lifogydd.


BBC News

Views: 0

See also  Prifysgolion Cymru'n wynebu 'sefyllfa ariannol ddrwg iawn'

Check Also

Beach-stranded 4×4 filmed at high tide by paddleboarder

Unlucky motorist ends up in deep water after parking their 4×4 on a beach. BBC …

Boy, 16, beach drowning was 'misadventure' – coroner

A teenager from Bristol, who had complex needs, went missing from a beach at Llandudno …

Bachgen 16 oed wedi boddi ar ôl mynd ar goll yn Llandudno – cwest

Clywodd y cwest yn llys y crwner Sir Ddinbych, Rhuthun gan ei fam, Catherine Lombardo, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.