google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd i gapeli wirio yswiriant wedi siom gorfod talu am ddifrod storm

3183dae0 2e33 11f0 8aed b122beaab795.jpg

Advertisements

Wrth i gapel Soar y Mynydd – un o gapeli mwyaf eiconig Cymru – agor ei ddrws ar gyfer oedfaon eleni mae’r swyddogion yn rhybuddio capeli eraill i wirio eu polisi yswiriant.

Yn ystod Storm Darragh fe gafodd to’r capel, sydd wedi’i leoli yn y bryniau rhwng Tregaron a Llyn Brianne, ddifrod sylweddol ac fe gwympodd nifer o’r coed gerllaw.

Wedi iddi anfon amcan bris o’r gost o’i drwsio i gwmni yswiriant Congregational – cwmni sydd wedi bod yn darparu yswiriant i eglwysi am dros 130 mlynedd – fe gafodd Margaret Evans siom o wybod na fyddai’r cwmni yn talu am y gwaith.

“Ychydig o aelodau ydyn ni i gyd a does yna ddim lot o arian yn y coffrau ond ni wedi cael gaeaf anoddach nag arfer,” meddai Mrs Evans wrth siarad â Cymru Fyw.

“Roedd yna £2,800 o ddifrod i’r to wedi Storm Darragh ac yn ychwanegol at hynny mae drws y toiled wedi’i ddwyn.

“Wedi i fi ffonio’r cwmni yswiriant fe wedon nhw wrtha i am anfon yr amcan bris o’i drwsio ac roedd rhaid bwrw ‘mlaen â’r gwaith er mwyn diogelu’r capel bach ond yna fe gawson ni wybod nad oedd yr yswiriant yn covero‘r difrod am nad oes oedfaon yn y capel o ganol Hydref tan ganol Mai.

“Roedd hynny’n siom fawr a ninnau yn talu am yswiriant yn flynyddol ac fe fydden i’n annog capeli eraill i wirio eu polisi yn enwedig wrth i lai o oedfaon gael eu cynnal yng nghapeli cefn gwlad.”


BBC News

Views: 3

See also  Beth mae hi'n ei olygu i fod yn faer?

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The cookie is updated every time data is sent to the google analytics server.