google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Rhian Bowen-Davies fydd Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru

Dywedodd Ms Bowen-Davies ei bod yn “fraint ac anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru”.

“Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy’n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb,” meddai.

“Gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu’r weledigaeth i wneud Cymru’n wlad oed-gyfeillgar.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog Vaughan Gething y bydd y comisiynydd newydd yn “dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn”.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o’r bobl sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.”


Source link

Advertisements

See also  Dathlu 70 mlynedd ers i Hollywood ymweld ag Abergwaun

Check Also

How Emma Finucane was inspired by Amy Hunt and Keely Hodgkinson

Finucane will now be putting together the final touches before this week’s World Championships, which …

Pryder y gallai cynllun 'sy'n newid bywydau' pobl ifanc ddod i ben

Mae cyn-weinidog addysg wedi codi pryderon am ddyfodol rhaglen gyfnewid ryngwladol sydd wedi creu profiadau …

Wales Air Ambulance helicopter rescued from Pembrokeshire holiday park

A Wales Air Ambulance helicopter has been removed from a holiday park by crane after …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime