google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Rheolau newydd yn fy atal rhag cael fy nghladdu gyda fy merch’

Advertisements

Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod dim lle mwyach ar dir yr amlosgfa ar gyfer rhoi “llwch pellach ochr yn ochr â gweddillion blaenorol”.

Golyga amodau gwlyb ar draws y safle ei bod hi’n amhosib hefyd gwasgaru llwch oherwydd y posibilrwydd iddo “beidio setlo’n naturiol neu mewn ffordd urddasol”.

Dywedodd llefarydd: “Dros flynyddoedd lawer, rydym wedi cefnogi teuluoedd i osod gweddillion wedi amlosgiad ochr yn ochr ag anwyliaid yn y gerddi coffa.

“Dros amser, fodd bynnag, mae ardaloedd claddu traddodiadol y gerddi wedi llenwi, ac nid yw’n bosib mwyach i ddarparu lle priodol yn ymyl claddedigaethau blaenorol heb y risg o darfu arnynt.”

Mae’r amlosgfa, meddai, wastad wedi “ceisio parchu” dymuniadau teuluoedd unigol, gan gydnabod arwyddocad cofio person annwyl mewn lle penodol.

“Gyda gofid” felly y mae’r cyngor yn dweud na allan nhw ddarparu claddedigaethau pellach wrth ymyl gweddillion sydd yn y tir eisoes.

Fe fydd yr amlosgfa yn parhau i ddarparu claddedigaethau yn rhannau eraill o’r gerddi ac mae swyddogion ar gael i helpu teuluoedd ystyried opsiynau.

Ychwangodd y llefarydd: “Rydym yn cydnabod y gallai’r newid yma fod yn un anodd, ac rydym yn diolch i’r teuluoedd am eu dealltwriaeth ac ymddiriedaeth wrth i ni barhau i ofalu am y gerddi coffa a phawb sy’n cael eu cofio yno.”


BBC News

Views: 1

See also  Singing opera helps Cardiff student cope with Tourette tics

Check Also

Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith Pride Cymru

Mae miloedd o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn gorymdaith Pride Cymru yng nghanol …

Mansion made with stone from medieval castle renovated and on sale for £1.5m

A couple who walked away from city life to transformed a run-down Tudor mansion are …

'TV psychic' jailed for sexual assaults

John Starkey is jailed for more than four years, after pleading guilty to three charges. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In the case, you are on this page occassionally, here is some info about the vastoftools website :. The residences at coconut point.