google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rheithgor yn methu dod i benderfyniad ar achos ffrwydrad Treforys

Clywodd y rheithgor fod boeler nwy, popty a mesurydd nwy wedi’u hadfer a’u cadw i’w harchwilio gan yr heddlu, ond bod tunelli o falurion wedi’u cludo i ganolfan ailgylchu, a hynny wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Abertawe.

Yn ôl yr asiantaeth gosod tai Homehunters, oedd yn gosod 159 Heol Clydach, roedd y tŷ wedi cael ei archwilio pum mis cyn y ffrwydrad – a chafodd yr archwiliad nwy blynyddol diwethaf ei gynnal ym mis Mai 2022.

Ni chafodd unrhyw broblemau gyda nwy eu nodi bryd hynny, clywodd y rheithgor.

Fe welodd y rheithgor luniau o ffwrn Mr Davies – ffwrn oedd wedi’i ddatgysylltu “mewn ffordd barhaol”. Cadarnhaodd Mr Holder o Homehunters ni fyddai’r asiantaeth wedi trefnu hyn.

Clywodd y cwest fod adroddiad post-mortem gan batholegydd wedi dod i’r casgliad bod Mr Davies wedi marw oherwydd anafiadau i’w frest a’i wddf.

Cafodd ei gorff ei ganfod yn ardal y gegin yn gorffwys ar beiriant golchi.


BBC News

Advertisements

See also  Teuluoedd a busnesau yn gwneud honiadau yn erbyn cyn-seren bêl-droed

Check Also

Arnhydeddu’r gantores Mary Hopkin am ei ‘dylanwad parhaol’

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa fel cantores yn ei harddegau, gan berfformio ar gyfres adloniant …

Glamorgan complete squad with Hannah Jones and Amy Wheeler signings

Glamorgan have completed their squad for tier-one cricket in 2027 by signing Hannah Jones and …

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu Plaid Cymru am wthio annibyniaeth

“Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy – i fwrw ymlaen gyda’r llywodraethu,” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime