google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhan o’r A470 ar gau wedi adroddiadau am ddamwain trên

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau nad oes trenau yn teithio rhwng Machynlleth a Chaersws yn sgil “digwyddiad”.

Deallir bod y gwasanaethau brys wedi’u galw i ddigwyddiad a gredir o fod yn ddamwain trên.

Mae Heddlu-Dyfed Powys wedi cau ffordd yr A470 yn ardal Talerddig ac yn cynghori gyrwyr i osgoi yr ardal.

Yn ôl trigolion lleol mae ambiwlansys ac ambiwlans awyr wedi cyrraedd y safle ac yn ôl adroddiadau fe gyrhaeddodd hofrennydd gwylwyr y glannau Rescue 936 y lleoliad yn hwyr nos Lun.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau bod diffoddwyr tân yn ymateb i’r digwyddiad.

Dywedon nhw eu bod wedi’u galw wedi iddyn nhw gael eu hysbysu am ddamwain trên am 19:34 ond maen nhw wedi gwrthod gwneud sylw pellach.

Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwasanaethau rhwng Amwythig ac Aberystwyth yn cael eu canslo am y tro ond byddan nhw’n darparu dull arall o deithio rhwng y ddau le.

Oherwydd bod ffyrdd ar gau, ni all trenau alw yng ngorsaf Caersws hyd nes y clywir yn wahanol.


Source link

Views: 0

See also  Athro'n cael 'nosweithiau di-gwsg' ers trywanu Ysgol Dyffryn Aman

Check Also

Commonwealth Games 2026: Wales claim fourth swimming medal in Glasgow

Harry Milne, Jack Knight, Lewis Fraser and Bird had competed in the heats, with Richards, …

Losing my leg elevated my life, says world surfing champion

He works as a digger driver in the family construction business when not surfing. “I’ve …

World Matchplay darts 2026 results: Luke Littler defends title and smashes Phil Taylor’s average record

Luke Littler defended his World Matchplay title in sensational style and smashed Phil Taylor’s tournament …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The jammu & kashmir service selection board announced the availability of the jkssb patwari admit card 2024 on august 26. Elfbar elfliq sour apple nikotinsalz liquid 20 mg/ml nikotin quantity. Lowa women’s hiking boots.