google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwyll yn byw’r freuddwyd drwy hedfan awyrennau

Advertisements

Ti ond wir yn dysgu sut mae hedfan pan ti’n cael hedfan. Felly ti’n gallu ei ddysgu e mewn llyfrau, ond pan ti’n dechrau, mae’n teimlo fel bo’ ti’n ôl ar dy ddiwrnod cynta’ eto, achos does gen ti ddim clem sut mae hedfan!

O’dd 20 ar ein cwrs ni, a dwi’n credu mai 15 ‘nath orffen e a chael job. Mae rhai pobl yn ffeindio bod nhw’n dda ar y theori, ond dim wir efo’r hand-eye co-ordination.

Roedd cael hedfan am y tro cynta’ yn deimlad hollol hudol. Roedd e’n dilyn naw mis o waith caled, ac o’dd e’n deimlad rili arbennig.

Mae’r awyren yn fach – un propeller ar y ffrynt ac un set o adenydd – ond mae’n teimlo’n anferth pan ti’n dechrau.

Ti’n dechre yn mynd lan gydag hyfforddwr, ac maen nhw’n gwneud yr hedfan a ti’n dilyn nhw ar y controls. Felly cwpwl o hediadau rownd yr anialwch, i gael teimlad amdano fe.

Yna ti’n hedfan rownd, ac yn gneud lot o circuit training, sef hedfan dros y maes awyr mewn cylchoedd a gwneud lot o take-offs a glanio.

Wedyn ti’n cael mynd lan ar dy ben dy hun, sef y first solo – un cylch dros y maes awyr a glanio eto – roedd hwnna reit cŵl. O’dd hwnna tua pythefnos ar ôl cyrraedd Phoenix, felly roedd e reit glou.

Yna nôl i Brydain i weithio tuag at y drwydded peilot masnachol. ‘Nes i orffen popeth ddiwedd 2023, a dwi’n gweithio gydag EasyJet ers Tachwedd 2024.


BBC News

Views: 1

See also  Aberteifi: Cyhoeddi enw dyn ar goll wrth i'r heddlu barhau i chwilio

Check Also

BBC ‘working hard’ on the future of Doctor Who, says director-general

Announcing his departure, Davies said Doctor Who’s future was “unpredictable and new” and he was …

Bowling for Soup singer’s son dropped on head at Cardiff Castle

During the crowd surf, Everett fell before he was quickly picked back up by the …

Labour calls on Welsh government to withdraw supplementary budget

Thomas added: “The Welsh government need to withdraw it today, negotiate with those unions to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
La política de privacidad del servicio gravatar está disponible aquí : https : //automattic.