google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwy yw rheolwyr newydd clybiau pêl-droed Cymru?

Er bod Alan Sheehan wedi bod wrth y llyw yn Abertawe ers canol mis Chwefror, chafodd o ddim ei benodi’n barhaol nes ddiwedd Ebrill.

Fe adawodd Luke Williams ei swydd ac fe gamodd Sheehan i mewn wrth i’r clwb chwilio am reolwr newydd.

Ond fe lwyddodd i ennill 23 pwynt allan o 36 oedd ar gael, gan arwain yr Elyrch o ddyfroedd dyfnion y tabl.

Mae Sheehan wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Abertawe ers 2023, pan gafodd Michael Duff ei benodi’n rheolwr.

Cafodd Sheehan hefyd flas ar fod yn rheolwr Abertawe am gyfnod byr, ar ôl i Duff adael a chyn i Luke Williams gael ei benodi i’r brif swydd.

Cafodd Sheehan yrfa fel amddiffynnwr, a chwaraeodd dros sawl clwb gwahanol yn y Bencampwriaeth ac yn Adran Un.

Ar ôl gadael Iwerddon ble cafodd ei fagu, fe arwyddodd i Gaerlŷr yn 2003 ac fe gafodd gyfnod yn chwarae i Leeds United.

Ar ôl gadael Leeds fe chwaraeodd i sawl clwb gwahanol gan fynd ar fenthyg am gyfnodau byr i glybiau fel Peterborough United a Notts County. Setlodd yn Luton a chwarae bron i 100 o gemau cyn gadael yn 2016.

Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn Oldham yn 2022 cyn troi at hyfforddi.

Mae Sheehan wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Elyrch ac mae wedi bwrw ati yn syth.

Mae Abertawe wedi arwyddo pedwar chwaraewr yn barod ar gyfer y tymor nesaf; Zeidane Inoussa, Bobby Wales, Ricardo Santos a Melker Widell, a wnaeth gytuno i symud i Abertawe ym mis Ionawr.


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff: Police officer charged with sexual assault

Check Also

Boy wins award after steering car to safety when mum collapsed

A mother whose life was saved by her son’s quick thinking after she collapsed at …

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime