google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Iestyn Tyne

Advertisements

Dwi’n difaru sawl sefyllfa lle na lwyddais i gymodi â rhywun yn dilyn anghydfod. Ambell gelwydd (nid rhai golau) a cham gwag. ‘Cywilydd’ oedd testun y gadair pan enillais i yn yr Urdd, a’r argyfwng hinsawdd oedd gen i dan sylw yn y cerddi hynny. Dwi’n dal i gywilyddio at yr hyn rydan ni’n ei wneud i’r blaned ac i’n gilydd.

O ran yr hyn ro’n i’n ei deimlo yn y foment (dwi ddim yn cywilyddio o gwbl wrth edrych yn ôl), efallai mai un sy’n sefyll allan yn y cof ydi cael pwl o banig yn ystod sgwrs banel yng Ngŵyl y Gelli, a gorfod gadael y llwyfan yn ddiesboniad ar ganol ateb cwestiwn gan aelod o’r gynulleidfa.

Hwn oedd fy nigwyddiad byw cyntaf o flaen llond stafell o bobl ers dechrau 2020, a chyn y cyfnod clo ro’n i’n medru cymryd rhan mewn digwyddiadau o’r fath heb lawer o baratoi – ei ‘wingio hi’ yn hyderus. Ond hyd yn oed gyda nodiadau manwl o ‘mlaen, yn y Gelli aeth y cyfan o ‘ngafael, fel pe bai rhywun wedi mynd â sugnydd llwch drwy f’ymennydd.

Mae o’n brofiad brawychus – peidio gwybod dim oll, mwya sydyn; ac yn yr eiliad honno, gyda sylw pawb wedi’i hoelio arna i, ro’n i am i geudwll agor yn y ddaear i fy llyncu i. O’r golwg, mi ges i ddiod o ddŵr, canolbwyntio ar anadlu, ailadrodd fy affirmations, a dod ataf fy hun yn ara bach.

Dychwelyd i’r llwyfan ymhen rhyw 10 munud, a gorffen ateb y cwestiwn yn lled-huawdl. Roedd o’n gadarnhad nad oeddwn i’r un un wedi profiadau’r blynyddoedd a fu, ond ‘mod i hefyd wedi dechrau dysgu sut i ddygymod â’r realiti newydd hwnnw.


BBC News

Views: 0

See also  Judgement Day: Cardiff top Principality billing as event future explored

Check Also

Teyrngedau i’r Parchedig John Owen, Rhuthun – englynwr a chynhyrchydd

Roedd y Parchedig John Owen yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg. Cafodd ei arestio yn …

Swansea City to make Crystal Palace’s Ben Stevens sporting director

Swansea City are set to appoint Ben Stevens as their new sporting director. Stevens has …

'Little hero' rescued drowning friend from the sea by her hair

Tamika and Sofia-Ann were cut off by the tide and pulled under water by the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
© 2026 coconut point residences. We are trusted by worldwide traders. Just a moment....