google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwy sy’n cofio’r Anglesey Strangers?

Advertisements

Y pedwar aelod oedd Eric Bentley ar gitâr flaen, Andy Worral ar y drymiau, Gordon Humphreys ar gitâr fas a Bryn Jones yn canu ac yn chwarae gitâr rhythm.

Daeth yr hogiau’n ffrindiau da wrth dyfu fyny gyda’i gilydd yng Nghemaes. Roedd Gordon a Bryn yn siarad Cymraeg, yn ogystal â’u rheolwr, Elfed.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, dywedodd Bryn Jones, “Dyma fi ac Eric ac Andy yn dechra band ein hunain yn 1960 tra roedda ni’n yr ysgol, yn perfformio lot o stwff tebyg i Cliff Richard a’r Shadows.

“Ond ddaru petha newid pan welsom ni Dino and the Wildfires yn chwara – grŵp o Borthmadog. Ro’n ni wedi gwirioni efo’u sain nhw.

“Mi newidion ni’n steil wedyn – tyfu’n gwalltiau, a mynd mwy fel y Rolling Stones a’r Beatles, a gollwng y stwff offerynnol.”

Fe ymunodd Gordon Humphreys ar gitâr fas yn 1962, ac fe ddechreuodd yr hogiau galw eu hunain yn The Strangers.

Ond bu rhaid iddyn nhw newid eu henw i’r Anglesey Strangers, ar ôl iddyn nhw ddarganfod fod band o’r enw The Strangers yn ardal Y Rhyl.

Meddai Bryn, “Roedd rhieni Andy (y drymiwr) yn berchen ar siop grosers yng Nghemaes ac mi o’n ni’n arfar ymarfer yn y stordy uwchben y siop.

“Dwn i’m beth oedd y cymdogion yn meddwl o’r holl sŵn!”


BBC News

See also  Man died after being bitten by dogs, inquest told

Check Also

Don’t Look Back In Anger: Oasis’ Cardiff comeback gig emotional, directors say

Oasis’ reunion gig at Cardiff’s Principality Stadium was a “hugely emotional” experience that took Noel …

Cyfres newydd eisiau chwalu'r 'stigma a'r myth' am ddigartrefedd

Mae angen cael gwared â’r stigma a’r camwybodaeth am ddigartrefedd os yw pobl am fod …

Pam bod penglog ar grys rygbi newydd Caerdydd?

Mae hi’n dymor arbennig i Rygbi Caerdydd eleni wrth i’r clwb ddathlu 150 mlynedd. Er …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime