google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder y bydd trefn ailgylchu newydd yn denu llygod mawr

Yn ôl Mr Rushton, mae’r holl becynnau sy’n dod gyda’i feddyginiaeth yn golygu fod ganddo gryn dipyn o wastraff i ystyried ei fod yn byw ar ben ei hun, a bod ei finiau yn aml yn “gorlifo erbyn yr ail wythnos”.

Mae’n poeni y bydd effaith ar ei iechyd os nad yw’r gwastraff yn cael ei gasglu am fis.

“Mae gen i broblemau iechyd, a’r peth gwaethaf posib yw meddwl y gall llygod gael eu denu yma,” meddai.

“Dwi ddim yn meddwl mai fi yw’r unig un sy’n poeni – mae ‘na nifer o gwynion wedi bod am y gwastraff yn casglu a’r posibilrwydd o lygod yn cael eu denu, ond dwi ddim yn meddwl bod y cyngor yn cymryd y cwynion hynny o ddifrif.

“Mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn bod yna broblem, ac efallai bod modd i rai pobl fynd yn ôl i’r hen system os nad ydyn nhw’n gallu defnyddio’r cynllun newydd.

“Os nad yw hynny’n bosib, yna beth am ddarparu biniau mwy o faint?”


Source link

Views: 0

See also  Arddangosfa'n cofio dylanwad Steve Strange ar ddiwylliant yr 80au

Check Also

Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau iaith wrth gau ysgol gynradd

Mae Cyngor Sir Gâr wedi methu cydymffurfio â safonau’r iaith gyda’u penderfyniad i gau Ysgol …

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
0 shirt speedstar models. Used to monitor number of google analytics server requests. The ultimate guide to the best wrist alarm clock.