google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder am enw da addysg uwch yn sgil toriadau prifysgolion

Advertisements

Mae pennaeth y corff sy’n gyfrifol am ariannu prifysgolion yn dweud ei fod yn poeni y gallai toriadau i’r sector amharu ar enw da addysg uwch Cymru.

Yn ôl Simon Pirotte, prif weithredwr Medr – a gafodd ei lansio’r llynedd i oruchwylio addysg ôl-16 – mae yna lawer i fod yn falch ohono ond mae’r ffocws presennol ar “yr heriau a’r problemau”.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau i dorri 400 o swyddi academaidd, ac mae sefydliadau eraill hefyd wedi dweud eu bod yn gorfod chwilio am ddiswyddiadau er mwyn gwneud arbedion.

Dywedodd Mr Pirotte nad oedd yn poeni y byddai prifysgol yn mynd i’r wal “yn y dyfodol agos” er gwaethaf amgylchiadau “heriol dros ben”.

Roedd Mr Pirotte yn siarad cyn lansio cynllun strategol cyntaf Medr, wyth mis ar ôl ei sefydlu ym mis Awst 2024.

Mae gan y corff gyllideb o £960m ac mae’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio prifysgolion, addysg bellach a hyfforddiant, yn ogystal â chweched dosbarth ysgolion.


BBC News

Views: 1

See also  Lib Dems pledge extra £300m for social care at Senedd campaign launch

Check Also

Her un Cofi i redeg cilomedr am bob gôl yng Nghwpan y Byd

Wrth i gefnogwyr Yr Almaen estyn am stein arall i ddathlu buddugoliaeth 7-1 yn erbyn …

Plaid says it has found £55m to boost childcare for two-year-olds

The extra cash will provide an additional 3,000 spaces for two-year-olds. BBC News Views: 0 …

Jin o Gymru’n ennill medal aur mewn gwobrau yn San Francisco

Jennifer a Phil sy’n gweithio efo’r jin yn bennaf, ond mae eraill yn rhan o’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The residences at coconut point. Cashew nuts for sale | wholesale and retail cashews. Just a moment....