google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder am ddefnydd cyw iâr o dramor mewn prydau bwyd ysgol

Advertisements

Nododd dau – Ynys Môn a Phen-y-bont ar Ogwr – bod eu holl gynnyrch cyw iâr mewn prydau bwyd ysgol yn dod o’r Deyrnas Unedig.

Ond mae’r ffigyrau yn amrywio yn fawr ar draws y wlad, gyda thri awdurdod yn nodi bod mwy nag 85% o’r cyw iâr mewn ysgolion yn deillio o wledydd y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, fel Brasil, China a Gwlad Thai.

Ym Merthyr Tudful mae’r ganran uchaf o gynnyrch cyw iâr mewn ysgolion sydd yn dod o’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, gyda 99.35%.

94% oedd y ffigwr cyfatebol yng Nghonwy.

Nododd Cyngor Sir Caerffili bod 87.32% o’r cyw iâr mewn prydau bwyd ysgol yn dod o’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd, ond dywedon nhw nad ydyn nhw’n defnyddio unrhyw gyw iâr o’r tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd ers dechrau’r flwyddyn academaidd bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful: “Pan yn dewis cynnyrch newydd neu yn disodli cynnyrch, rydyn ni’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’n gofynion diogelwch bwyd.”

Ychwanegon nhw eu bod yn “gweithio gyda darparwyr lleol ar gyfer y cynnyrch defnyddiwn yn ein hysgolion”.

Yn ôl Cyngor Sir Conwy, maen nhw’n “dilyn dull rhagweithiol o ran defnyddio cynnyrch Cymreig ar gyfer prydau ysgol pan fo hyn yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn darparu gwerth gorau”.


BBC News

Views: 3

See also  Ceredigion: Disgwyl tro pedol ar gynllun cau ysgolion cynradd

Check Also

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at …

Anthony Hopkins’ England shirt World Cup post divides fans

Sir Anthony Hopkins has prompted a flurry of divided reaction after sharing a photograph of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Resources for maximizing electric scooter battery life.