google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryd a ble fydd modd gweld diffyg ar yr haul yng Nghymru?

Advertisements

Mae Dr Cai Stoddard Jones, sydd â doethuriaeth yng Ngwyddor Comedau ac Addysg Comedau, yn dweud y bydd yr eclips yn olygfa arbennig i bobl yng Nghymru.

“Yn syml, fydd o’n edrych fatha bod o’n troi’n nos, ddim yn dywyll, dywyll ond yn fwy tywyll nag arfer,” meddai.

“Wrth i’r eclips fynd ymlaen, bydden ni’n gweld halo o gwmpas yr haul a’r lleuad a hwn ydy corona, sef y rhan tu allan i’r haul, ‘dan ni methu gweld fel arfer.”

Dywedodd mai’r ffordd orau o wylio’r eclips yw defnyddio sbectol eclips, ond bod dulliau eraill ar gael i bobl sy’n methu cael gafael arnyn nhw.

“Opsiwn arall ydy defnyddio colander i wneud i’r haul gael ei daflunio ar y wal – mae’r tyllau bach yn neud i’r llun edrych yn dda ar y wal.

“Neu hefyd mae modd gwneud pinhole camera gyda thiwb kitchen roll a ffoil, gyda thwll bach a phwyntio hwnna at yr haul – yna neith llun o’r haul gael ei daflunio ar y wal er mwyn gweld be’ sy’n mynd ymlaen.”


BBC News

See also  Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Check Also

Cynnydd yn nhymheredd y môr ‘yn peryglu cynefinoedd a morwellt’

Wrth i’r môr o amgylch Cymru boethi mae rhywogaethau newydd yn ymddangos, meddai Laura Hughes, …

Cyhuddo Reform o geisio dechrau ffrae am hil dros godi baner Pacistan

Dywedodd arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Chris Weaver y bu “seremoni i godi’r faner ar 9 …

Zan Vipotnik: The golden boot winner yet to kick start his season at Swansea City

Zan Vipotnik has been backed to return to form for Swansea City – even though …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime