google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prinder cyffur ffibrosis cystig yn rhoi bywydau ‘yn y fantol’

Mae iechyd ac, o bosib, bywydau miloedd o bobol sy’n byw gyda’r cyflwr ffibrosis systig yn y Deyrnas Unedig “yn y fantol”, yn ôl Aelod o Senedd Cymru.

Mae’r cyffur Creon, sy’n cael ei ddefnyddio i reoli symptomau’r cyflwr, yn brin ac yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’r sefyllfa erbyn hyn yn “argyfwng”.

Wrth i’r cyflenwad fynd yn fwy prin bob dydd, mae un tad o Gonwy yn poeni beth fydd hyn yn ei olygu i’w ddwy ferch sy’n byw hefo’r cyflwr.

Mae Imogen ac Anabel yn cymryd gwahanol feddyginiaethau tuag at y cyflwr, gan gynnwys y cyffur Creon.

“Cyn iddyn nhw ddechrau cymryd Creon doedden nhw methu rhoi pwysau ymlaen,” meddai eu tad, David Fare.

“Pan mae’r genod yn bwyta, heb rhain, mae braster yn mynd syth trwodd a rhoi poen bol. Maen nhw’n gorfod cael un o’r rhain hefo bob 3-5 gram o fraster maen nhw’n ei fwyta.”


Source link

Views: 1

See also  Firefighters tackling large blaze in industrial units

Check Also

Osprey swallows fish hook in nest with newborn chicks

An osprey is being closely monitored after swallowing a fish hook attached to a trout. …

'Tornado-like flame' as smoke impacts major commuter route in rush hour

People are told to keep their windows closed due to smoke from an industrial fire. …

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. New wordpress website is being built and will be published soon.