google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Prifathro yn pledio’n euog ar ôl ymosodiad ysgol

63ec0740 138b 11f0 ac9f c37d6fd89579.jpg

Mae prifathro wedi pledio’n euog i achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, yn dilyn ymosodiad mewn ysgol.

Cafodd Anthony John Felton, 54, ei arestio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph’s yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot ar 7 Mawrth.

Cafodd person 51 oed driniaeth yn yr ysbyty am fân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad.

Fe ymddangosodd Mr Felton, a gafodd ei restru mewn prosbectws diweddar fel pennaeth yr ysgol, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun trwy gyswllt fideo.

Mewn gwrandawiad byr, siaradodd i gadarnhau ei enw a phlediodd yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Dywedodd John Hipkin, wrth amddiffyn, fod y digwyddiad y bu ei gleient yn rhan ohono “ar unrhyw olwg” wedi arwain at “gwymp syfrdanol o ras”.

Rhybuddiodd y Barnwr Paul Thomas KC bod “dedfryd o garchar yn anochel” i Felton.

Mae Felton wedi’i gadw yn y ddalfa, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 25 Ebrill.


BBC News

Advertisements

See also  'Y gwerth mawr mewn gwlân defaid'

Check Also

Nations League: Wales won’t fear star-studded Portugal – Jordan James

Jordan James insists depleted Wales will not be overawed when they line up against “the …

Women’s Lions tour a ‘top goal’ for Wales prop Sisilia Tuipulotu

Tuipulotu, 23, exploded onto the international scene in the 2023 Six Nations, where she earned …

Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo ar ôl yfed gormod a disgyn

“Roedd yna amgylchiadau personol yn gefndir i’m hymddygiad hefyd, a dwi’n credu eu bod yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime