google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Pobl yn gadael y celfyddydau ‘yn eu cannoedd’ wedi toriadau

“Mae’r sefyllfa’n un argyfyngus”, yn ôl Dr Roger Owen, sy’n ddarlithydd mewn theatr a pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth, “ond mae’r argyfwng yma wedi cael ei baratoi, wedi cael ei ddatblygu, wedi cael ei feithrin yn wleidyddol”.

Mae’n teimlo bod gorfod dewis rhwng gwario ar y gwasanaeth iechyd neu ar y celfyddydau yn ddewis na ddylai ddigwydd.

“Doedd dim raid i hynny ddigwydd, mae hwnna’n un peth sy’n fy nghorddi i”.

Ychwanegodd bod yr arfer a’r awydd o fynychu’r theatr wedi lleihau: “Mae’r clo mawr wedi newid pethau yn fawr.”

Dywedodd hefyd y byddai’n anodd iawn ar fyd y theatr ac opera yn y Gymraeg heb arian cyhoeddus gan bod cynyrchiadau “theatr, ac opera, yn gostus”.

“Bydde fe ddim yn bosib rhedeg sefydliadau cenedlaethol Cymraeg yn y theatr drwy gyfrwng y Gymraeg, oni bai bod pobl yn barod i gyfrannu o’u pocedi eu hunain llawer, llawer mwy na mae nhw’n gwneud nawr.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod “sefydliadau diwylliant, chwaraeon a chelf Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles”, ond eu bod nhw’n glir bod eu cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.

Yn y gorffennol maent wedi sôn am orfod gwneud “penderfyniadau anodd dros ben”.


Source link

Advertisements

See also  World Cup 2026: Ex-Arsenal midfielder Thomas Partey in preliminary Ghana squad

Check Also

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

80 mlynedd o rwyfo ar afon Tâf

“Dwi wedi bod eithaf sâl ar gychod yn y gorffennol. Nes i ffeindio mas am …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime