google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pobl leol yn dal lladron petrol ar ôl eu dilyn i draeth yng Ngwynedd

Advertisements

Mae lladradau tanwydd wedi cynyddu 62% ar draws y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau’r BBC.

Dywedodd Judith am y dynion, a gyrhaeddodd ei garej mewn dwy fan: “Fe wnaethon nhw roi petrol yn un ohonyn nhw a wnaeth y ddau yrru i ffwrdd.”

Fe wnaeth Judith apêl ar Facebook gyda lluniau o’r cerbydau wedi’r digwyddiad ym mis Ebrill.

Ar ôl gweld ei hapêl, cafodd y dynion eu gweld tu allan i dafarn, ond fe wnaethon nhw adael cyn i’r heddlu gyrraedd.

Cafodd y dynion eu gweld y diwrnod canlynol ar draeth ac fe wnaeth grŵp o bobl leol gadw llygad arnyn nhw nes i’r heddlu gyrraedd.

Dywedodd Judith bod y dynion wedi cyfaddef dwyn o’i garej, a’u bod bellach wedi talu am y petrol.

“Mae pŵer Facebook yn wych,” meddai.

“Mae’r gymuned leol yn gefnogol ac mae pobl wastad yn barod i helpu.”


BBC News

See also  Firefighters attend several blazes across Wales

Check Also

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Wrexham news: Red Dragons seek ‘horrible’ streak amid defensive issues

But it has been far more settled this term, with Zak Vyner, Hyam and Callum …

Susie Dent says she is determined to learn the Welsh language

Susie Dent has been a familiar face on television for more than 30 years, sitting …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime