google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pob dydd ‘yn frwydr’ i deuluoedd plant sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd

Advertisements

Nid yw profiad Ffion a Barry yn unigryw, ac mae adroddiad newydd gan Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan ym Mro Morgannwg yn amlinellu’r heriau sy’n wynebu teuluoedd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.

Mae’r ddwy hosbis yn dweud bod angen newid ar frys, ar draws y system iechyd a gofal, er mwy galluogi teuluoedd i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynt, yn haws, a chyn iddyn nhw gyrraedd y dibyn.

Mae Tracy Jones, Cyfarwyddwr Llesiant Teuluol a Gwasanaethau Allgymorth yn Nhŷ Hafan, yn un o awduron yr adroddiad.

Mae hi’n dweud ei bod hi’n gallu deall pam nad yw rhai gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal eisiau awgrymu gofal hosbis i deuluoedd.

“Nid sgyrsiau bob dydd yw’r rhain… Mae cael y sgwrs honno, i ddweud wrth deulu: ‘mae’n bosib na fydd eich plentyn yn byw i fod yn oedolyn, ydych chi wedi meddwl am ddefnyddio gwasanaeth hosbis?’ yn sgwrs anodd iawn i’w chael.”

“Dyna un o’r pethau sy’n dod allan yn gryf iawn, beth allwn ni fod yn ei wneud fel sector i helpu’r gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad dyddiol â’r teuluoedd hyn i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â chael y sgyrsiau hynny?”

Mae hi’n gobeithio y bydd cyhoeddi’r adroddiad yn arwain at bartneriaeth fwy ffurfiol rhwng gweithwyr iechyd a gofal a’r hosbisau.

Dywedodd y dylid annog y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd yn weithredol i ymweld â’r hosbisau i ddeall yr hyn maen nhw’n gallu cynnig.


BBC News

Views: 1

See also  Cwis: Pwy yw seren y sioe Nadolig?

Check Also

Nations Championship: Adam Beard hopes Wales recreate winning feeling in Argentina

Wales lock Adam Beard is a man who has been to Argentina before and won. …

Rhun ap Iorwerth tells Andy Burnham not to bypass Senedd

Burnham came under criticism earlier this week after WalesOnline revealed it had received an article …

The special friendship formed while receiving palliative care

Marie Curie said figures suggested there are more than 10,000 adults across Wales with unmet …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime