google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cau ward ysbyty yn Sir Gâr yn sgil achosion o glefyd prin

Mae ward mewn ysbyty yn Sir Gâr wedi gorfod cau yn dilyn achosion o glefyd crafu crawennog neu crusted scabies – math prin ac heintus o’r clefyd crafu.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod ward Steffan yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi gorfod cau tra bod yr achosion yn cael eu rheoli “yn unol â gweithdrefnau atal a rheoli heintiau”.

Dywedodd y bwrdd iechyd fod pob claf a staff sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achos o’r clefyd wedi cael gwybod ac wedi cael cynnig triniaeth – gan gynnwys y rhai sydd heb symptomau.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod mesurau atal a rheoli heintiau ychwanegol wedi’u cyflwyno gan gynnwys monitro gwell, trin rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r haint a chefnogaeth barhaus gan dimau arbenigol.

Ychwanegodd llefarydd bod mwy o achosion yn ardal yr ysbyty sef yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion – a bod hynny yn cyfrannu at nifer yr achosion o’r clefyd yn yr ysbyty.

“Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu a bydd y ward yn ailagor yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny,” meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Wales: Craig Bellamy thrilled to navigate 'crazy' Kazakhstan build-up

Check Also

Wrexham man sent on youth training scheme by Department for Work and Pensions in error

A man in his 50s “mistakenly placed” on a training programme for 16-30 jobseekers has …

Dau yn y llys wedi’u cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai

Mae’r ddau ddyn ifanc yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael …

Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant “lle maen nhw’n teimlo eu bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Used to monitor number of google analytics server requests. Elfbar elfa kit.