google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Plaid Cymru yn cytuno ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur

Advertisements

Ar ôl colli sedd Caerffili yn yr isetholiad fis Hydref, does gan y llywodraeth Lafur ddim digon o aelodau o’r Senedd i basio’r gyllideb heb gefnogaeth o leiaf dau aelod arall o’r Senedd.

Pe bai’r llywodraeth wedi methu taro bargen gyda phlaid arall, mi fyddai’r goblygiadau wedi bod yn ddifrifol oherwydd fe fyddai’n pasio yn awtomatig ar 75% o wariant eleni, fyddai’n arwain at doriadau mawr a cholli swyddi.

Roedd Llafur un sedd yn brin o fwyafrif yn barod – hyd yn oed cyn iddyn nhw golli isetholiad Caerffili – ac felly eleni roedd rhaid dibynnu ar yr un AS Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, i basio’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad, roedd yn rhaid i Lafur berswadio o leiaf dau aelod o’r Senedd i’w cefnogi er mwyn gallu pasio’u cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r gyllideb hon yn arwyddocaol oherwydd mae’r polau piniwn yn awgrymu mai plaid arall fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, ac felly yn etifeddu’r cynlluniau gwario yma.

Roedd drafft cyntaf y cynlluniau yn awgrymu y gallai pob adran weld cynnydd yn eu coffrau o tua 2%, ond mae disgwyl i’r ffigyrau yna newid, gyda £380m heb ei glustnodi er mwyn galluogi’r llywodraeth i sicrhau cefnogaeth plaid arall.


BBC News

Views: 1

See also  People out and about in Wales enjoying the snow

Check Also

Rhyl man, 61, denies trafficking girl, 15, to London

A man accused of being involved in a child sexual exploitation ring in Denbighshire has …

Why a Gen Z Londoner can graze sheep in the Welsh valleys

Caleb Tutt’s life looks much like that of many Gen Z professionals in London – …

‘Scared to go to work’: Shop assistant tells of customer abuse

The retail sector, Chris Evans, said, was “encumbered by appalling levels of aggression, harassment and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... heavy equipment transport kern ca.