google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Plaid Cymru yn barod i ddisodli Llafur – Rhun ap Iorwerth

Bydd arweinydd y blaid yn dweud wrth y gynhadledd: “Heddiw, gyda chyfle hanesyddol i adeiladu cenedl o’n blaenau, rydw i’n mynd i amlinellu’r dewis sy’n wynebu Cymru – dau ddyfodol gwahanol iawn ond dim ond un opsiwn credadwy.”

“Gadewch i ni fod yn glir. Dydyn ni ddim yma i weithredu fel cydwybod Llafur. Dydyn ni ddim yma i adfer Llafur. Rydyn ni yma i’w disodli.

“Rydym yn addo llywodraeth newydd, gydag egni newydd a syniadau newydd i brofi’r hyn y mae pob person sy’n credu yng Nghymru eisoes yn ei wybod – nad oes rhaid i bethau fod fel hyn.”

Gyda rhai eithriadau, mae Plaid Cymru wedi bod yn gryfach yn draddodiadol yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.

Dywed Rhun ap Iorwerth y bydd ei lywodraeth ar ochr “hen ac ifanc. Trefol a gwledig. O’r gogledd a’r de. Siaradwr Cymraeg a’r di-Gymraeg”.

“Dyma’r amser i stopio Reform ac i ethol llywodraeth sy’n fwy radical, yn fwy uchelgeisiol, ac yn ysu am wireddu newid positif yn fwy nag unrhyw lywodraeth aeth o’i blaen.”


BBC News

Advertisements

See also  Llangollen teens start year-long cycle to Thailand

Check Also

Saurichthys fish fossil found in Wales resolves teeth confusion

Researchers from Amgueddfa Cymru – Museum Wales worked with State Museum of Natural History Stuttgart …

Cyfyngu ar nifer ymwelwyr ysbyty wedi achosion o’r clefyd crafu

Mae ysbyty yn Sir Gâr wedi cyflwyno cyfyngiadau mewn ymateb i achosion diweddar o’r clefyd …

Flying Start brand to be ditched for two-year-old childcare in Wales

The Welsh government has asked councils to rebrand the childcare they provide for two-year-olds, dropping …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime