google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

Plaid Cymru a’r SNP yn trafod ffurfio ‘cynghrair flaengar’

Advertisements

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at gyfarfod Mr Swinney i “drafod ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol ein cenhedloedd”.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn awyddus i fabwysiadu arferion gorau o bob cwr o’r byd o ran mabwysiadu polisïau i wella bywydau beunyddiol pobl, a ble gwell i ddechrau na gydag un o’n cynghreiriaid agosaf yn yr Alban,” meddai.

“Mae Taliad Plant yr Alban yn bolisi radical a chyffrous yr ydym wedi ymrwymo i’w gyflwyno fel cynllun peilot Cymreig pe bai Plaid Cymru yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ym mis Mai.

“Diolch i fesurau fel hyn, yr Alban yw’r unig ran o’r DU lle mae cyfraddau tlodi plant i fod i ostwng yn y blynyddoedd i ddod.

“Rwyf am i hynny fod yn wir yng Nghymru hefyd.

“Mae gennym gyfle gwirioneddol i ddangos grym gwleidyddiaeth flaengar trwy gydweithrediad agos a pharhaus rhwng yr Alban a Chymru.

“Gyda Llywodraeth SNP yn yr Alban a Llywodraeth Plaid Cymru yng Nghymru fis Mai nesaf, bydd gan ein cenhedloedd y lleisiau cryfaf posibl na all San Steffan eu hanwybyddu mwyach.”


BBC News

See also  Cymru Premier: Wales fail to regain European place after poor results

Check Also

Amy Williams: The Cardiff City Bluebird hoping to fly high in Welsh rugby

Williams has continued to impress throughout pre-season, with Lynn including her in his WXV squad …

‘Adeiladwr wedi dinistrio fy nghartref cyn diflannu gyda £14,000’

Yn y pendraw llwyddodd ei chyn-bartner i gysylltu ag ef, ond awgrymodd Slocombe fod yr …

Cardiff City: Barry-Murphy urges winless Bluebirds to be ‘more ruthless’

Brian Barry-Murphy says Cardiff City need to be more ruthless, while remaining relaxed about their …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime