google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pino Palladino: O Jarman a’r dociau i Adele ac LA

Bydd Pino a dau o’r cerddorion wnaeth chwarae gydag o ym mand D’Angelo – Chris Dave ac Isaiah Sharkey – yn perfformio fel triawd yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd ar 14 Hydref ar ôl sesiwn holi ac ateb gyda’r cyflwynydd Huw Stephens.

Y tro diwetha’ iddo chwarae yng Nghaerdydd oedd gyda The Who tua 10 mlynedd yn ôl a dyma’r tro cyntaf iddo chwarae o dan enw ei hun. Mae’n edrych ymlaen, meddai, ac yn disgwyl gweld dipyn o wynebau cyfarwydd gan fod ei fam, dau frawd, dwy chwaer, eu plant a llu o ffrindiau yn dal i fyw yng Nghaerdydd.

Dyma’r bennod diweddara’ mewn gyrfa wnaeth flodeuo heb gynllun, meddai, gan ddilyn trywydd i pa bynnag gyfeiriad oedd y gerddoriaeth yn mynd ag o ac sydd wedi ei arwain i lefydd annisgwyl iawn.

“Dwi’n ffeindio fy hun nawr yn gweithio gyda chymaint o artistiaid ro’n i’n eu caru ers talwm pan nes i ddechrau chwarae’r gitâr,” meddai.

“Pan nes i ddechrau chwarae’r gitâr roedd Simon and Garfunkel, er enghraifft, gyda Bridge Over Troubled Water yn albym anferth a nesh i erioed freuddwydio am eiliad fyddwn i’n cyfarfod nhw hyd yn oed heb sôn am chwarae gyda nhw.

“Ac wedyn dwi’n ffeindio fy hun mewn stiwdio gyda Paul Simon, un i un, yn recordio ac ar daith gyda Simon and Garfunkel.

“Felly mae’n anhygoel – dwi’n gorfod pinshio fy hun.”


Source link

Views: 0

See also  Mum-to-be 'never woke up' and new FM makes history

Check Also

Prince of Wales boat tragedy that killed 15 remembered 60 years on

“This happened in the morning, at about 11 in the morning, and I was just …

One Day Cup: Middlesex thrash hapless Glamorgan

The team changes suggested the home side would be favourites, but not the scale of …

Degau yn ceisio rheoli tân yn y gogledd ddwyrain

Mae 75 o weithwyr y gwasanaeth tân yn ceisio diffodd fflamau mewn iard sgrap yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime