google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 36-5 Cymru

Mae Cymru wedi colli am y trydydd tro o’r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi i Iwerddon eu trechu’n hawdd.

36-5 oedd y sgôr terfynol ym Mharc Virgin Media, Cork – canlyniad sy’n golygu bod Cymru’n parhau ar waelod y tabl.

Roedd tîm Ioan Cunningham eisoes wedi golli gêm agos ar Barc yr Arfau yn erbyn Yr Alban cyn colli’n drwm oddi cartref yn erbyn y deiliaid Lloegr.

Roedd y tîm cartref 21-0 ar y blaen erbyn diwedd yr hanner cyntaf wedi i Aoife Wafe, Eve Higgins a Neve Jones groesi’r llinell.

Fe diriodd Katie Corrigan wedyn ar ddechrau’r ail hanner cyn i Beibhinn Parsons sgorio pumed cais Iwerddon.

Roedd yna ambell eiliad addawol i’r Cymru – fe wnaethon nhw ddarfod y gêm yn gryfach ac roedd yna elfennau cadarnhaol o ran yr amddiffyn a’r sgrym.

Ac fe sgoriodd Gwennan Hopkins unig gais Cymru yn ei gêm ryngwladol gyntaf ar ôl dod ymlaen fel eilydd.

Ond chwarae am friwsion fydd Cymru yn y ddwy gêm sy’n weddill – y ddau yng Nghaerdydd – yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.


Source link

See also  Plan for 1,000 Porthcawl homes 'will put off tourists', campaign fears

Check Also

Y ffenestri trawiadol sy’n dod â lliw i eglwysi Cymru

Mae gwydr lliw wedi cael ei ddefnyddio i addurno adeiladau yng Nghymru am dros 700 …

Stanley Tucci spotted trying Welsh cakes at Cardiff Market

Actor Stanley Tucci was spotted visiting the food stalls at Cardiff Market and trying some …

‘Gofalwch gael yswiriant teithio digonol’ – mam merch o Lanrug gafodd ei hanafu yn Nhwrci

Ar ôl wyth diwrnod yn yr ysbyty, cafodd Greta ei chludo yn ôl i’r DU …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime