google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pen-blwydd 850 yr Eisteddfod i elwa o danwariant Cymraeg 2050

Advertisements

Mae disgwyl i gynlluniau’r Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu 850 mlynedd ers sefydlu’r eisteddfod gyntaf yn 1176 elwa o danwariant ym maes Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru eleni.

Bydd yr hwb ariannol yn ychwanegol at y £238,100 y mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi i’r Eisteddfod ar gyfer dathlu’r 850 mlynedd.

Mae tanwariant £290,000 o fewn cyllideb y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 yn cael ei “ailbwrpasu”, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford.

Dywedodd y llywodraeth bod y tanwariant yn bennaf oherwydd llai o geisiadau na’r disgwyl i gronfa grant Perthyn sy’n helpu grwpiau cymunedol i sefydlu mentrau cymdeithasol, “ynghyd â’r gallu i wireddu nifer o brosiectau gyda llai o gyllid”.

Y flaenoriaeth ar gyfer gwario’r £290,000 sy’n weddill yw gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg – sy’n “ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol” – ynghyd â chynorthwyo’r Eisteddfod Genedlaethol gyda chynlluniau i ddathlu 850 mlynedd ers yr eisteddfod gyntaf.

Cafodd yr eisteddfod honno ei chynnal yng nghastell Aberteifi yn 1176 dan nawdd Rhys ap Gruffydd, yr Arglwydd Rhys.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod “prosiect cyffrous ar y gweill i ddathlu’r garreg filltir bwysig hon yn hanes yr Eisteddfod”, ac y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o fanylion yn y gwanwyn.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi manylion y buddsoddiad ddechrau mis Mawrth.


BBC News

Views: 2

See also  Cynnydd o 167% yn nifer y cwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfliq blackberry lemon nikotinsalz liquid 10 mg/ml nikotin. Elfbar elfx kit silver pink.