google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Partner dysgu yn ‘fy ysbrydoli i siarad Cymraeg’

Advertisements

Mae’n anodd cofio’n union pam ymunais i â’r cynllun Siarad i ddechrau – mae’n teimlo fel amser maith yn ôl! Ond yn y bôn, dwi’n credu mai awydd i helpu rhywun sy’n dysgu Cymraeg oedd yr ysgogiad.

‘Miliwn o siaradwyr’

Mae’n hawdd eistedd yn ôl a disgwyl i’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ymddangos megis hud a lledrith, ond efallai bod mwy o siawns i’r ymgyrch lwyddo os yw Cymry Cymraeg yn gwneud ymdrech i gynnig ychydig o help llaw!

Roedd y cyfnod clo dal yn weithredol pan ddechreuodd Angela a fi siarad, felly sgwrsio dros fideo fydden ni bryd hynny. Ond pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, dechreuon ni gwrdd mewn caffis yn lle.

Ry’n ni fel arfer yn cwrdd unwaith y mis. Dydyn ni ddim yn byw’n rhy bell oddi wrth ein gilydd – Angela yn Llys-faen a finnau yn yr Eglwys Newydd, felly mae digon o ddewis o lefydd fel y gallwn ni fynd i rywle gwahanol bob tro!

Mae’n ffordd naturiol iawn i siaradwyr newydd ymarfer eu Cymraeg. Dydw i byth yn cywiro Angela, nac yn cynnig y gair Cymraeg os yw hi’n defnyddio’r gair Saesneg am rywbeth.

Weithiau mae hi’n gofyn beth yw rhywbeth penodol yn Gymraeg, ond ddim yn aml iawn. Mae’n siarad yn rhwydd iawn!

Perthynas

Dwi’n hoffi clywed beth sy’n mynd ymlaen ym mywyd Angela – mae ganddi bedwar o blant (sydd bellach yn oedolion) a nifer o wyrion, felly mae ‘na wastad ddigon i’w drafod!

Ry’n ni hefyd yn sgwrsio am lyfrau a rhaglenni teledu Cymraeg. Mae’r ddwy ohonom yn canu mewn corau, felly weithiau byddwn ni’n taro ar ein gilydd mewn eisteddfodau lleol.

Mae Angela yn berson allblyg iawn, ac yn hawdd siarad â hi. Diolch byth am hynny! Mae’r sgwrs wastad yn llifo’n rhwydd.

Mae Angela wedi cwrdd â fy nheulu i gyd erbyn hyn, dwi’n meddwl!

Daeth hi a’i gŵr i wylio fy merch yn chwarae Matilda yng Ngŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd ddwy flynedd yn ôl, a daeth i’n gwylio ni’n dwy’n cystadlu yn y ddeuawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd! Mae’n gefnogol iawn.

Os oes gennych chi awr neu ddwy’n rhydd bob mis, ewch amdani! Pam lai? Dydych chi byth yn gwybod pwy wnewch chi gyfarfod!


BBC News

Views: 1

See also  'Husband jailed for stabbing wife to death' and 'Father murdered in racist attack'

Check Also

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Mae rhagor o artistiaid wedi eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni. BBC …

Aaron Ramsey: Mikel Arteta an inspiration as ex-Wales and Arsenal star eyes management

Ramsey has been part of Craig Bellamy’s Wales staff in an unofficial capacity in recent …

‘Hwb i’r economi a’r Gymraeg’ – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Wrth i’r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
It takes less than 60 seconds to set up your professional profile.