google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pâr priod yn teithio i Sbaen ond yn deffro yn Lithwania

Fe gyrhaeddodd y cwpwl Faes Awyr Bryste ddydd Sadwrn 25 o Fai mewn da bryd ar gyfer eu hediad 08:15 i Barcelona.

Mae’r cwpl bob amser yn defnyddio cymorth arbennig mewn meysydd awyr oherwydd bod Andrew wedi colli rhan o’i goes ac mae gan Victoria awtistiaeth.

“Daeth ein rhif hedfan i fyny wrth y giât, a chawsom ein tywys i waelod grisiau’r awyren, lle edrychodd staff ar ein tocynnau, a phan gyrhaeddom yr awyren fe wiriodd y stiwardes ein tocynnau eto,” meddai Mr Gore.

Cawsant sicrwydd bod gweddill eu teulu ar yr awyren.

“Fe gawson ni wybod eu bod nhw’n bendant ar yr awyren ac fe wnaethon ni ymlacio, felly fe gawson ni gwsg gan ein bod ni wedi codi’n gynnar.

“Pan ddeffrais i, doedd hi ddim yn edrych fel Sbaen allan drwy’r ffenest, nes i droi fy ffôn ymlaen a gweld y neges ‘Croeso i Lithwania’, meddai Mr Gore.

“Fe ges i banig a meddwl ei fod yn gwneud hwyl am fy mhen i,” meddai Mrs Gore.


Source link

Advertisements

See also  'Dwi erioed wedi arolygu tŷ newydd a chanfod dim byd o'i le'

Check Also

Moment paedophile arrested after sexually assaulting child in south Wales

This is the moment a fleeing paedophile carrying a knife who sexually assaulted a child …

Pembrokeshire driver in A40 crash was over legal limit – inquest

A drink-driver who hit a road sign and flipped his car killed himself and his …

Iawn i ddefnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd – Llywydd

Gellir defnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd, mae Llywydd y Senedd wedi penderfynu. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime