google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pan oedd Cynan yn sensora dramâu Cymraeg

B1bc3450 1461 11f0 90d3 7d5441ca7ed3.jpg

Advertisements

Roedd rhaid i bob drama gael ei gwirio’n ofalus, er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â’r safonau ‘derbyniol’ oedd wedi eu gosod gan yr Arglwydd Chamberlain, a hynny ers Deddf Trwyddedu Llwyfan 1737.

Cyn i Cynan gael y swydd, roedd rhaid i ddramodwyr neu gwmnïoedd drama a oedd am berfformio drama Gymraeg, anfon cyfieithiad Saesneg at Archwilwyr Drama yn Lloegr er mwyn cael trwydded.

Ond, fel yr eglurodd yr Athro Gerwyn Williams ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, roedd y drefn yn un “anghyson ac anfoddhaol”, ac fe newidiodd un ddrama bopeth ddechrau’r 1930au.

“Mi fuodd ‘na berfformiad o ddrama o’r enw Y Grocbren gan Gwilym R Jones, Cwmni Drama Talysarn, tua 1931, ac mi ofynnwyd yn y perfformiad os oedd ‘na drwydded, a doedd yna ddim trwydded, felly roedd ‘na achos llys.

“Aeth yr achos llys yn erbyn Gwilym R Jones a’i gyd-actorion, ond roedd yn achos pwysig iawn. Mi ddywedodd cadeirydd y fainc y byddai hi’n fwy boddhaol bod rhywun sydd â gwybodaeth o’r Gymraeg i roi sensor arnynt.

“Mae’r Aelod Seneddol Goronwy Owen, AS Rhyddfrydol Arfon ar y pryd yn ymddiddori yn y mater ac mae o a’i gyd ASau Cymreig yn cynnig enw Cynan fel sensor Cymraeg.”

“Dewis ysbrydoledig” yn ôl Gerwyn, awdur y cofiant Cynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970).

Gan fod Cynan yn weinidog, doedd yna ddim amheuaeth am ei foesau, ac roedd yn annibynnol ei farn.

“Roedd Cynan yn ŵr eangfrydig a rhyddfrydig iawn. O’dd o’n fentrus ac yn radical ar y pryd – roedd fel chwa o awyr iach.


BBC News

Views: 1

See also  Carchar a dirwy £26,000 i ffermwr o Sir Gâr am gam-drin anifeiliaid

Check Also

Janus kitten born with two mouths leaves Llangedwyn cat rescue ‘speechless’

Warning: This story contains an image that some readers may find upsetting A cat rescue …

Jake Heyward and Charlotte Henrich break Welsh records at London Diamond League

Earlier on Saturday afternoon, Henrich, 19, broke the Welsh 400m record for the second time …

Cardiff bin lorry fire likely caused by e-bike batteries, council says

Two refuse wagons have been damaged by fires caused by hazardous materials put out with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime