google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pam fod defnydd isel o’r Gymraeg yn y system gyfiawnder?

Advertisements

Dywedodd yr AS annibynnol, Rhys ab Owen, sydd wedi gweithio fel bargyfreithiwr yn Abertawe, fod “hon yn broblem sy’n stwbwrn”.

Ychwanegodd ei fod yn “ymwybodol o gwpl Cymraeg iaith gyntaf a roddodd dystiolaeth mewn tribiwnlys ychydig o fisoedd yn ôl, ac mae’r rhain yn gweithio drwy’r iaith Gymraeg, ond fe benderfynon nhw roi eu hachos drwy’r Saesneg, oherwydd rôn nhw’n meddwl byddai cael cyfieithydd yn creu gormod o drafferth”.

Dywedodd yr AS Llafur Mike Hedges: “Rwy’n meddwl mai un o’r problemau yw bod yna eiriau lle mai dim ond y Saesneg sy’n cael ei ddefnyddio mewn iaith gyffredin, gan gynnwys ymhlith y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg, pan mae opsiwn i symud i’r Saesneg.”

Felly, meddai, “dwi’n meddwl bod cael pobl i ddefnyddio Cymraeg yn bennaf, ac yna defnyddio geiriau Saesneg pan fo angen, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr”.

Dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies bod y “ffigyrau’n dweud wrthym fod yna amharodrwydd o hyd i lawer i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfreithiol o gymharu â’r Saesneg” a bod angen mynd i’r afael ag “unrhyw rwystrau”.


BBC News

Views: 3

See also  Paul Mullin to miss Wrexham's US tour after surgery

Check Also

Plaid Cymru i wario £55m ar ehangu gofal i blant dwy oed

Fe wnaeth BBC Cymru adrodd ddydd Sul bod cynghorau’n wynebu heriau difrifol o ran ehangu …

Mark Drakeford yn gwrthod honiadau am bwysau ariannol y llywodraeth

Dywedodd ffynonellau o bleidiau Llafur a’r Ceidwadwyr Cymreig wrth y BBC nad oedden nhw wedi …

Cyfle i eisteddfodwyr ‘ddweud eu dweud’ ar ddyfodol y Brifwyl

Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfodydd. “Yn gam neu’n gymwys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
© 2026 coconut point residences. We are the best processors & traders of raw cashew nuts. Just a moment....