google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Olive ac Yvonne: y cyn-nyrsys sy’n sêr y cyfryngau cymdeithasol

Advertisements

Ond mae’n fwy na siop. Mae personoliaeth y ddwy a’r sgiliau maen nhw wedi eu datblygu dros ddegawdau o weithio yn y maes iechyd meddwl wedi arwain at elfennau sydd ddim yn rhan o unrhyw gynllun busnes.

Maen nhw’n gwerthu paned a theisen a’r lle wedi datblygu i fod yn fan cyfarfod a lle i gael cwmni. Mae’r ddwy hefyd yn gefn i bobl yn y gymuned sydd angen help – ac yn le i godi calon.

“Mae fel hyb y gymuned – fel yna mae wedi troi mas,” meddai Yvonne.

“Mae pobl yn dod i gael chat. Mae rhai pobl unig ma’ nhw’n dod am y dydd. Maen nhw fwy fel ffrindie na chwsmeriaid.”

“Mae dipyn o storis i rai o’r bobl sy’n dod yma, a ni’n supportio nhw,” meddai Olive.

Maen nhw’n mynd a rhai cwsmeiriad sydd methu gyrru car i apwyntiadau meddygol i Gaerfyrddin a Chaerdydd, ac yn mynd ag eraill i siopa neu nôl meddyginiaeth.

Ac mae ‘na bellach dîm bychan sy’n dod yno i helpu – Myra yn gwneud y coffi, Marlene y cacenni te a stemio’r dillad, Judith yn addurno’r ffenestri a Jackie yn helpu gyda thechnoleg.


BBC News

Views: 0

See also  Kaelan Casey: Swansea City close in on West Ham United defender

Check Also

Ex-Everton wing Rhys Hughes relishing Champions League bow with TNS

After leaving Tranmere, Hughes joined Connah’s Quay in August 2024. “Going part-time is different but …

‘Angen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r efengyl’ – Y Parchedig Glyn Wise

Fe wnaeth Glyn fwynhau paratoi a gwneud ei gymun cyntaf o flaen ei rieni yn …

‘Cydweithio â’r gymuned’ yw’r ffordd i dafarndai Cymru lwyddo

Ychwanegodd Gareth Jones, sy’n gweithio yn y dafarn: “Balans dwi’n meddwl ydy’r gair cywir, ‘da …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Datsun 240z pandem widebody kit. How south african freelancers are using ai to work smarter. el obeid : a war crime is happening right now.