google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ofwat i ddiflannu – Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn gyfrifol am ddŵr?

Advertisements

Fe gafodd yr adolygiad mwyaf i’r sector ers ei breifateiddio ei gynnal gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn dilyn pryderon eang ynghylch llygredd, biliau a thâl rheolwyr.

Fe wnaeth 88 o argymhellion, gan gynnwys diddymu’r system sy’n rheoleiddio cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr a sefydlu dau gorff ar wahân ar gyfer y ddwy wlad.

Doedd yr adroddiad, dan arweiniad cyn-ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, Syr Jon Cunliffe, ddim yn ystyried a ddylid ailwladoli’r diwydiant.

Ond wrth awgrymu systemau rheoleiddio ar wahân yn y ddwy wlad, mae’r Comisiwn yn cydnabod “natur wahanol ac unigryw” sector dŵr Cymru a ffactorau diwylliannol “sensitif” fel hanes boddi Cwm Celyn er mwyn cyflenwi dinas Lerpwl â dŵr.

“Mae arwyddocâd diwylliannol dwfn ynghylch dŵr yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod yn fater sensitif, yn enwedig yn sgil digwyddiadau hanesyddol fel creu cronfa Tryweryn,” dywedodd.

Ychwanegodd bod system Cymru’n wynebu heriau gwahanol, gyda chyfran uwch o dir yn dir amaethyddol.

Y cwmni nid-er-elw Dŵr Cymru sy’n cyflenwi mwyafrif y cwsmeriaid yng Nghymru, ac mae cwmni Hafren Dyfrydwy’n gwasanaethu’r gweddill.

Mae’r Comisiwn yn “cydnabod y bydd rhai newidiadau yn gymhleth a hirfaith, gyda’r potensial i greu cryn ansicrwydd”.


BBC News

Views: 0

See also  Dyn wedi talu miloedd am gwrs hyfforddiant ond heb gael cymhwyster

Check Also

Yr heriau a’r trawma o lanhau sefyllfaoedd eithafol

Wrth i Ben lanhau mae’n sichrau, wrth symud drwy’r ardal, ei fod yn cadw popeth …

Carchar am oes i bensiynwr am lofruddio ei gymydog ar ddydd Nadolig

Mae dyn 67 oed o Sir Ddinbych wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio …

Labour politician wants training courses for rabbit owners in Wales

The Senedd election in May saw Hedges’ Labour lose power in Wales for the first …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
el obeid : explosions are heard. This product has multiple variants. Contains custom information set by the web developer via the _setcustomvar method in google analytics.