google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Of Mice and Men ddim ar restr llyfrau TGAU newydd Cymru

Astudiodd Marley,16, y llyfr ddwy flynedd yn ôl.

“Roeddwn i’n actually hoffi’r stori, ond pryd glywes i’r gair, roedd o’n gwneud fi’n anghyfforddus yn y stafell dosbarth ac roedd o ddim yn helpu bod rhai o’r disgyblion eraill yn y dosbarth yn syllu arna i a chwerthin,” meddai.

Mae’n croesawu’r ffaith na fydd y llyfr ar y maes llafur flwyddyn nesaf “achos bydd ddim rhaid i blant arall teimlo fel maen nhw ‘di singlo mas yn y ffordd ges i fy singlo mas yn y dosbarth.”

Nofel Americanaidd arall – To Kill a Mockingbird – astudiodd Bowen Cole, 18, yn yr ysgol ac mae ganddo deimladau cymysg am y ffaith na fydd honno chwaith yn cael ei hastudio ar y cwrs TGAU o flwyddyn nesaf.

Mae’n lyfr sydd hefyd wedi ei osod yn y 1930au ac sy’n feirniadol o hiliaeth y cyfnod ond mae’n cynnwys geiriau hiliol ac i Bowen, roedd hynny’n anodd fel yr unig berson du yn ei ddosbarth Saesneg.

Dywedodd ei fod yn “lyfr pwysig” ond doedd e ddim yn cytuno bod angen ailadrodd y geiriau wrth astudio’r llyfr yn y dosbarth.

“Mae pawb yn mynd i ddweud ‘beth mae e’n mynd i ddweud’ neu ‘beth mae e’n teimlo am hyn’ a ti yn gallu teimlo bod ti y case study am yr holl beth.”


Source link

Views: 0

See also  Y cyn-AS Gwynoro Jones yn pledio'n ddieuog i ymosodiad rhyw

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Toggle google analytics.