google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oes modd defnyddio dŵr o byllau glo i wresogi ysgolion yn y gogledd?

Advertisements

Byddai’r system yn opsiwn carbon isel yn lle defnyddio boeleri nwy, meddai’r adroddiad, ac er y byddai costau o gynnal a chadw’r pympiau gwres yn uwch, y gobaith ydy y gallai’r cynllun arbed arian yn yr hirdymor.

Mae’r adroddiad yn nodi dwy ardal all fod yn gymwys – ac un opsiwn ychydig yn fwy cymhleth.

Y safle mwyaf addawol, medde nhw, ydy Ysgol Uwchradd Hawarden.

Mi fyddai modd cael pibellau dŵr yn mynd o’r pwll glo i lawr at dwnnel draenio sy’n arwain dŵr o dan dir preifat sy’n eiddo i Ystad Hawarden.

Ond mi fydd yn anodd gweithredu’r cynllun yma gan y bydd angen i bibell 380m o hyd fynd trwy goetir rhestredig gradd II er mwyn cyrraedd yr ysgol.

Mae clwstwr o ysgolion posibl hefyd wedi cael eu nodi yn ardal Bwcle a’r Wyddgrug.

Ond yn ôl swyddogion y cyngor: “Fel technoleg newydd, mae’n anodd asesu llawer o’r risgiau, gan gynnwys pa mor fforddiadwy fydd gweithredu a chynnal a chadw’r cynllun yn yr hirdymor.”

Fe aethon nhw ymlaen i ddweud eu bod wedi cynghori aelodau bod angen mwy o ymchwil i effeithlonrwydd y cynllun cyn eu bod yn ystyried gweithredu’r system.

Mi fydd y cynllun yn cael ei drafod mewn cyfarfod ddydd Mawrth.


BBC News

Views: 0

See also  What if we could cure blindness?

Check Also

WRC: Elfyn Evans extends championship lead as Thierry Neuville wins Rally de Portugal

The organiser of Rally de Portugal, Automovel Club de Portugal (ACP), has been given a …

Ex-Tory Senedd leader Paul Davies wants to become Llywydd

Paul Davies needs backing from Plaid Cymru or Reform to become the first Conservative in …

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026

Mae enwau’r cyfrolau sydd ar Restr Fer Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am 2026, wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.