google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oes gennych chi ffasiwn cerdd dant?

Mae’r ffasiwn wedi newid ychydig erbyn hyn, ond ar un adeg, doedd parti cerdd dant ddim yn barti cerdd dant heb ffrog flodeuog Laura Ashley.

Ac mae’n hen bryd iddyn nhw weld golau dydd eto, yn ôl Sara Gibson, aelod o bwyllgor apêl Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025.

Ym mhabell Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, bydd arddangosfa o ddillad sydd wedi eu gwisgo i gystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant dros y blynyddoedd… ac mae angen eich rhai chi!

“Mae’n gyfle i ni edrych yn ôl a diolch i’r rheiny am gystadlu, am greu’r bwrlwm, am greu’r lliw ac am gyfrannu i hanes yr Ŵyl Cerdd Dant,” meddai Sara, wrth egluro am y syniad tu ôl i’r arddangosfa.

“Annog teimlad o nostalgia, ac i hyrwyddo’r ffaith fod yr Ŵyl yn dychwelyd i Aberystwyth fis Tachwedd eleni. Ni am roi esgus i bobl ddod i’r babell i hel atgofion.”


BBC News

Advertisements

See also  Cyn-hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru wedi marw

Check Also

World Rally Championship: Rally Scotland to take place in October as 2027 calendar released

The season will start on the icy tarmac roads in Monte Carlo from 21-24 January …

Calum Scanlon: Cardiff City and Liverpool style of play very similar

Scanlon was full of compliments for Cardiff head coach Brian Barry-Murphy, who helped the club …

Lluniau o noson Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026

Wedi noson lwyddiannus a lliwgar yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Dafydd Owain ddaeth i’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime